Camau at Grist
Article 10—Gwybodaeth am dduw
LLUOSOG YW’R FFYRDD y ceisia Duw wneud ei hunan yn hysbys i ni a’n dwyn i gymundeb ag Ef. Mae natur yn llefaru wrth ein synhwyrau yn ddiball. Bydd i’r galon agored gael argraffu arni gan gariad a gogoniant Duw fel eu datguddir drwy weithredoedd ei ddwylo. Gall y glust sydd yn gwrando glywed a deall ymadroddion Duw trwy bethau natur. Mae’r maesydd gwyrddion, y coed uchel, yr egin a’r blodau, y cwmwl wrth fynd heibio, y glaw sydd yn disgyn, y nant yn sisial, gogoniant y nefoedd, oll yn siarad wrth ein calonnau, ac yn ein gwahodd i ddyfod yn gydnabyddus ag Efe yr hwn a’u gwnaeth oll. CG 62.1
Cyfunai ein Gwaredwr ei wersi gwerthfawr gyda phethau natur. coed, yr adar, blodau’r maes, y bryniau, y llynnoedd, a’r nefoedd brydferth, yn ogystal a digwyddiadau ac amgylchyniadau bywyd beunyddiol, yr oeddynt oll yn cael eu dolennu wrth eiriau gwirionedd, fel y gallai ei wersi drwy hynny gael eu galw yn ôl i’r meddwl, hyd yn oed yng nghanol gofalon prysur bywyd llafurus dyn. CG 62.2
Mynnai Duw gael ei blant i werthfawrogi ei weithredoedd. ac ymhyfrydu yn y prydferthwch syml, distaw yr addurnodd ein cartref daearol â hwy. Y mae yn edmygydd o’r prydferth, ac uwchlaw pob peth sydd atyniadol, y mae yn caru prydferthwch cymeriad; mynnai i ni ddiwyllio purdeb a symlrwydd, grasusau distaw y blodau. CG 62.3
Dim ond i ni wrando. bydd i weithredoedd creëdig Duw ddysgu i ni wersi gwerthfawr o ufudd-dod ac ymddiried. O’r sêr y rhai o oes i oes a ddilynant eu llwybrau penodedig yn eu cwrs anolrheiniadwy drwy’r gofod, i lawr at y atomau eiddilaf, mae pethau natur yn ufuddhau i ewyllys y Creawdwr. Ac y mae Duw yn gofalu am bob peth ac yn cynnal pob peth a greodd. Yr hwn sydd yn cynnal y bydoedd afrifed ym mhob man drwy yr eangder annherfynol, sydd ar yr un pryd yn gofalu am anghenion aderyn bach y tô sydd yn canu ei ganig heb fraw. Pan â dynion allan i’w gwaith dvddiol, felly hefyd gyda’r gorchwyl o wedd ïo; wrth orwedd y nos ac wrth godi yn y bore; pan fydd y goludog yn gwledda yn ei balas, neu pan fydd y tlawd yn casglu ei blant ynghyd oddeutu y bwrdd llwm, mae pob un yn cael ei wylio yn dyner gan y Tad Nefol. Ni thywelltir un deigryn nad yw Duw yn sylwi arno. Nid oes gwên nad yw Efe yn craffu ami. CG 62.4
Pe mynem ond credu hyn yn llawn, bwrid allan bob pryderon amhriodol. Ni fyddai ein bywydau mor lawn o siomedigaeth ag ydynt yn awr; oherwydd y byddai pob peth, pa un bynnag bach neu fawr, yn cael ei adael yn nwylo Duw, yr Hwn nad yw yn drysu gyda lluosowgrwydd gofalon, nac yn cael ei lethu gan eu pwys. Dylem gan hynny fwynhau y gorffwys enaid y mae llawer wedi bod yn hir yn ddieithr iddo. CG 63.1
Fel bydd dy synhwyrau yn ymhyfrydu ym mhrydferthwch hudol y ddaear, meddwl am y byd a ddaw, yr hwn na ŵyr byth am falltod pechod a marwolaeth; Ile na bydd wyneb natur mwy yn gwisgo cysgod o’r felltith. Boed i’th ddychymyg dynnu darlun o gartref y gwaredigion, a chofia y bydd yn fwy gogoneddus na dim y gall dy ddychymyg disgleiriaf ei bortreadu. Yn amrywiol ddoniau Duw mewn natur ni welwn ond y llewyrch gwannaf o’i ogoniant. Mae yn ysgrifenedig, “Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef.” 1 Cor. 2:9. CG 63.2
Mae gan y bardd a’r naturiaethwr lawer o bethau i’w dweud ynghylch natur; ond y Cristion sydd yn mwynhau prydferthwch y ddaear gyda’r gwerthfawrogiad uchaf, canys y mae ef yn gweld gwaith dwylaw ei Dad, ac yn gweld ei gariad mewn blodeuyn, a phrysgwydd, a choeden. Ni all unrhyw un werthfawrogi yn llawn arwyddocâd y bryn a’r dyffryn, yr afon a’r môr, os nad yw yn edrych arnynt fel mynegiad o gariad Duw at ddyn. CG 63.3
Mae Duw yn llefaru wrthym drwy ei weithredoedd rhagluniaethol, a thrwy ddylanwad ei Ysbryd ar y galon. Gallwn gael gwersi gwerthfawr, dim ond i’n calonnau fod yn agored i’w canfod, yn ein hamgylchiadau a’n hamgylchedd, yn y cyfnewidiadau sydd yn digwydd o’n cylch bob dydd. Y Salmydd, wrth olrhain gwaith rhagluniaeth Duw, a ddywed, “O drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyfiawn.” ” neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.” Salmau 33:5; 107:43. CG 63.4
Mae Duw yn llefaru wrthym yn ei Air. Cawn yma mewn llinellau cliriach y datguddiad o’i gymeriad, o’i ymdrafodaethau gyda dynion. a gwaith mawr y brynedigaeth. Cawn yma yn agored o’n blaen hanes patriarchiaid a phroffwydi a dynion sanctaidd eraill yr hen amser. Yr oeddynt yn ddynion “o’r un anian â ninnau.” Iago 5:17. BCN. Gwelwn pa fodd yr ymdrechasant drwy anhawsterau fel yr eiddom ninnau, fel y syrthiasant dan demtasiwn fel y gwnaethom ninnau, ac eto yn cymryd calon drachefn a gorchfygu drwy ras Duw; ac wrth edrych vr ydym yn cael ein calonogi yn ein hymdrech am gyfiawnder. Wrth i ni ddarllen am y profiadau gwerthfawr a ganiatawyd iddynt hwy, am y goleuni a’r cariad a’r fendith oedd iddynt i’w mwynhau, ac am y gwaith a gyflawnasant drwy y gras roed iddynt, mae’r ysbryd a’i hysbrydolodd hwy yn ennyn fflam o eiddigedd sanctaidd yn ein calonnau, a dymuniad am fod yn debyg iddynt mewn cymeriad - fel hwythau i rodio gyda Duw. CG 64.1
Dywedodd yr Iesu am Ysgrythyrau yr Hen Destament - a pha faint mwy gwir ydyw am y Newydd - “Hwynt-hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi” (Ioan 5:39), y Prynwr, Efe yn yr Hwn y mae ein gobeithion am fywyd tragwyddol yn canolbwyntio. Ydyw, mae’r holl Feibl yn dweud am Grist. O’r cofnodiad cyntaf am y greadigaeth - canys “hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd” (Ioan 1:3) - hyd yr addewid derfynol, “Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys” (Dat. 22:12), yr ydym yn darllen am ei weithredoedd, ac yn gwrando ar ei lais. Os mynnwch ddyfod yn gydnabyddus â’r Gwaredwr. astudiwch yr Ysgrythyrau Sanctaidd. CG 64.2
Llanw dy holl galon â geiriau Duw. Hwynt-hwy yw’r dŵr bywiol, sy’n torri dy syched angerddol. Hwynt-hwy yw’r bara bywiol o’r nef. Yr Iesu a fynega, “Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef. nid oes gennych fywyd ynoch.” Ac Efe a eglura ei hun trwy ddweud, “Y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt.” Ioan 6:53, 63. Mae ein cyrff yn cael eu gwneud i fyny o’r hyn a fwytawn ac a yfwn; ac fel yn y trefniant naturiol, felly yn y trefniant ysbrydol; yr hyn y myfyriwn arno yw’r hyn sydd yn rhoddi iechyd a nerth i’n natur ysbrydol. CG 64.3
Mae thema’r prynedigaeth yn un y mae’r angylion yn chwenychu edrych i mewn iddo, a bydd yn wyddoreg a chân y gwaredigion drwy oesoedd diddarfod tragwyddoldeb. Onid yw yn deilwng o sylw ac astudiaeth ofalus yn awr? Mae anfeidrol drugaredd a chariad Iesu, yr aberth a wnaed drosom ni, yn galw am y myfyrdod mwyaf dwys a difrifol. Dylem aros ar gymeriad ein hanwyl Waredwr a’n Cyfryngwr. Dylem fyfyrio ar genhadaeth yr Hwn a ddaeth i waredu ei bobl oddi wrth eu pechodau. Wrth i ni fel hyn fyfyrio ar bynciau nefol, bydd i’n ffydd a’n cariad gryfhau, a bydd ein gweddiau yn fwy-fwy cymeradwy gan Dduw, am y byddant yn fwy-fwy gymysg â ffydd a chariad. Byddant yn ddeallgar a gwresog. Bydd yna ymddiriedaeth fwy cyson yn yr Iesu, a phrofiad byw beunyddiol o’i allu i achub hyd yr eithaf bawb a ddeuant at Dduw drwyddo Ef. CG 65.1
Wrth i ni fyfyrio ar berffeithrwydd y Gwaredwr, bydd i ni ddymuno am gael ein cwbl drawsffurfio a’n hadnewyddu ar ddelw ei burdeb Ef. Bydd yna newyn a syched enaid am gael bod yn debyg i’r Hwn a addolwn. Po fwyaf y bydd ein meddyliau ar Grist, mwyaf oll y siaradwn amdano wrth eraill, a’i gynrychioli yn y byd. CG 65.2
Ni ysgrifenwyd y Beibl i’r ysgolor yn unig; i’r gwrthwyneb, bwriadwyd ef i’r bobl gyffredin. Gwneir y gwirioneddau mawrion sy’n hanfodol er iachawdwriaeth mor glir â’r dydd; ac ni bydd i neb gamgymryd a cholli eu ffordd, oddieithr y rhai hynny a ddilynant eu barn eu hunain yn lle ewyllys amlwg ddatguddiedig Duw. CG 65.3
Ni ddylem dderbyn tystiolaeth unrhyw ddyn am y hyn a ddysga yr Ysgrythyrau, ond dylem astudio geiriau Duw drosom ein hunain. Os caniatawn i eraill feddwl drosom ni bydd i ni gael egnïon gwanychol a galluoedd crebachlyd. Gall cyneddfau ardderchog y meddwl gael eu corachu trwy ddiffyg ymarferiad ar bynciau teilwng, fel ag i golli eu gallu i ddirnad ystyron dyfnion Gair Duw. Bydd i’r meddwl ehangu os ydyw ar waith yn olrhain perthynas pynciau y Beibl, gan gymharu ysgrythur gydag ysgrythur, a phethau ysbrydol â’r ysbrydol. CG 65.4
Nid oes dim cymhwysach er cryfhau y deall nag astudiaeth o’r Ysgrythyrau. Nid oes un llyfr arall mor alluog i ddyrchafu y meddyliau, i roddi grym i’r cyneddfau, a gwirioneddau llydain dyrchafol y Beibl. Pe byddai Gair Duw yn cael ei astudio fel y dylai, cai dynion y fath lydanrwydd meddwl, urddasolrwydd cymeriad, a sefydlogrwydd amcan na welir ond yn anfynych. CG 65.5
Ond ychydig fantais sydd yn deillio o ddarlleniad brysiog o’r Ysgrythyrau. Gall dyn ddarllen yr holl Feibl drwodd, ac eto fethu canfod ei brydferthwch, neu amgyffred ei ystyr ddofn a chuddiedig. Mae un adran yn cael ei hastudio hyd nes byddo ei harwyddocâd yn eglur i’r meddwl, a’i pherthynas â chynllun yr iachawdwriaeth yn amlwg, o fwy o werth na darllen llawer o benodau heb un amcan penodol na dim addysg bendant. Cadw dy Feibl gyda thi. Pan fo’n gyfleus, darllen ef; sefydla yr adnodau yn dy gof. Hyd yn oed pan fyddi yn cerdded yr heolydd, gelli ddarllen adran, a myfyrio arni, a thrwy hynny ei sefydlu yn dy feddwl. CG 66.1
Ni allwn gael doethineb heb sylwi’n ddwys ac astudio’n weddigar. Mae rhai rhannau o’r Ysgrythyr yn wir yn rhy hawdd i’w camgymryd; ond mae eraill nad yw eu hystyr yn gorwedd ar y wyneb, i’w ganfod â chipdrem. Rhaid cymharu ysgrythur âg ysgrythur. Rhaid fod ymchwiliad gofalus a myfyrdod gweddigar. A bydd i’r cyfryw astudiaeth dalu yn ôl yn oludog. Fel y darganfydda y mwynwr wythiennau y metel gwerthfawr a guddiwyd dan wyneb y ddaear, felly y cenfydd y sawl a chwilia Air Duw yn ddyfal, fel am drysor cuddiedig, wirioneddau o’r gwerth mwyaf, y rhai ydynt guddiedig o olwg yr ymchwiliwr diofal. Bydd geiriau ysbrydoliaeth, wedi myfyrio arnynt yn y galon, megis ffrydiau yn tarddu o ffynnon bywyd. CG 66.2
Ni ddylai y Beibl byth gael ei astudio heb weddi. Cyn agor ei ddalennau dylem ofyn am oleuni yr Ysbryd Glân, ac fe’i rhoddir i ni. Pan ddaeth Nathanael at yr Iesu, dywedodd y Gwaredwr, “Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll!” Dywedodd Nathanael, “Pa fodd y’m hadwaenost?” Iesu a atebodd, “Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di.” Ioan 1:47, 48. Gwêl yr lesu ninnau hefyd yn nirgel fannau gweddi, os ceisiwn Ef am oleuni, fel y gallom wybod beth yw gwirionedd. Bydd angylion o fyd y goleuni gyda’r rhai hynny a geisiant arweiniad Dwyfol mewn gostyngeiddrwydd calon. CG 66.3
Mae’r Ysbryd Glân yn dyrchafu a gogoneddu y Gwaredwr. Ei swyddogaeth ydyw gosod Crist, purdeb ei gyfiawnder, a’r CG 66.4