Camau at Grist
Article 9—Y gwaith a’r bywyd
DUW YDYW FFYNHONELL bywyd a goleuni a llawenydd y cyfanfyd. Megis pelydrau goleuni o’r haul, megis y ffrydiau sy’n torri allan o’r ffynnon fyw, y mae bendithion yn llifo allan oddi wrtho Ef i bawb o’i greaduriaid. A pha le bynnag y mae bywyd Duw yng nghalonnau dynion, fe lifa allan mewn cariad a bendith i eraill. CG 56.1
Yr oedd llawenydd ein Gwaredwr yn nyrchafiad ac adferiad dynion syrthiedig. Er mwyn hyn ni chyfrifodd ei fywyd yn annwyl iddo ei hunan, ond dioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd. Felly mae’r angylion bob amser yn gweithio er dedwyddwch eraill. Dyma eu llawenydd. Yr hyn a ystyriai calonnau hunanol fel gwasanaeth darostyngol, gwasanaethu y rhai sydd yn druenus, ac ym mhob ffordd yn israddol mewn cymeriad a gradd, yw gwaith yr angylion dibechod. Ysbryd cariad hunanaberthol Crist ydyw yr ysbryd a dreiddia drwy’r nefoedd, a dyma yw gwir hanfod ei gwynfyd. Hwn yw’r ysbryd a feddiennir gan ganlynwyr Crist, y gwaith a wnânt hwy. CG 56.2
Pan fo cariad Crist yn y galon, fel pêr-arogl hyfryd, ni ellir ei guddio. Teimlir ei ddylanwad sanctaidd gan bawb y deuwn i gysylltiad â hwy. Mae Ysbryd Crist yn y galon fel ffynnon yn yr anialwch, yn llifo i adfywio pawb, a gwneuthur y rhai sy’n barod i drengi yn awchus i yfed o ddŵr y bywyd. CG 56.3
Bydd i gariad at Grist gael ei amlygu mewn dymuniad i weithio, fel y gweithiodd Efe, er bendith a dyrchafiad dynoliaeth. Arweinia i gariad, tynerwch, a chydymdeimlad tuag at holl greaduriaid ein Tad Nefol. CG 56.4
Nid bywyd o esmwythyd ac ymroddiad iddo ei hunan oedd bywyd y Gwaredwr ar y ddaear, ond Efe a lafuriodd gydag ymdrech ddiflino, ddifrifol, a pharhaol er iachawdwriaeth dynoliaeth golledig. O’r preseb i Galfaria dilynodd Iwybr hunan-ymwadiad, ac ni chcisiodd ymryddhau oddi wrth orchwylion celyd. teithiau poenus, na gofal a llafur llethol. Dywedodd, “Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei enioes yn bridwerth dros lawer.” Matt. 20:28. Dyma oedd un amcan mawr ei fywyd. Yr oedd popeth arall yn israddol. Ei fwyd a’i ddiod oedd gwneuthur ewyllys Duw a gorffen ei waith Ef. Nid oedd i’r hunan na hunan- lesâd ran yn ei lafur. CG 56.5
Yr un modd, y rhai hynny ydynt gyfranogion o ras Crist fydd yn barod i wneud unrhyw aberth, fel y gall eraill dros y rhai y bu Efe farw gyfranogi o’r rhodd nefol. Gwnant yr oll a allant i wneud y byd yn well yn ystod eu harosiad ynddo. Mae’r ysbryd hwn yn dwf sicr enaid gwir ddychweledig. Nid cynt y daw un at Grist, nad oes yn ei galon ddymuniad i wneud yn hysbys i eraill y fath gyfaill gwerthfawr a gafodd yn yr Iesu; ni ellir cau yn ei galon y gwirionedd achubol a sancteiddiol. Os ydym wedi ein gwisgo â chyfiawnder Crist, a’n llenwi â llawenydd ei Ysbryd, ni fyddwn alluog i dewi â sôn. Os ydym wedi gweld a phrofi fod yr Arglwydd yn dirion, bydd gennym rywbeth i’w draethu. Fel Philip, pan ddarganfu’r Gwaredwr, bydd ni wahodd eraill i’w bresenoldeb. Bydd i ni geisio gosod ger eu bron atyniadau Crist, a sylweddau anweledig y byd a ddaw. Bydd dymuniad angerddol i ddilyn y llwybr a droediodd yr Iesu. Bydd hiraeth dwys am i’r rhai o’n cwmpas allu gweld “Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.” Ioan 1:29. CG 57.1
A bydd i’r ymdrech i fendithio eraill weithio yn ôl mewn bendithion arnom ein hunain. Dyma oedd amcan Duw yn rhoddi i ni ran i weithredu yng nghynllun yr iachawdwriaeth. Mae wedi caniatau i ddynion y fraint o ddyfod yn gyfranogion o’r Ddwyfol natur, ac yn eu tro, o wasgaru bendithion i’w cyd-ddynion. Dyma’r anrhydedd uchaf, y llawenydd pennaf, y mae yn bosibl i Dduw ei roddi ar ddynion. Y rhai a ddeuant fel hyn yn gyfranogion yn llafur cariad, a ddygir agosaf at eu Creawdwr. CG 57.2
Gallasai Duw ymddiried cenadwri yr efengyl, a holl waith gweinidogaeth cariad, i’r angylion nefol. Gallasai ddefnyddio ffyrdd eraill er dwyn ei amcan i ben. Ond yn ei gariad anfeidrol dewisodd ein gwneud ni yn gydweithwyr gydag Ef ei hunan, gyda Christ a’r angylion, fel y gallem ni gyfranogi o’r fendith, y llawenydd. y dyrchafiad ysbrydol, sydd yn dilyn oddi wrth y weinidogaeth anhunanol hon. CG 57.3
Dygir ni i gydymdeimlad â Christ trwy gymdeithas ei ddioddefiadau. Mae pob gweithred o hunanaberth er lles eraill yn cryfhau ysbryd haelioni yng nghalon y rhoddwr, gan ei gyfathrachu yn agosach ag Iachawdwr y byd, “Ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.” Cor. 8:9. Ac fel y byddwn fel hyn yn cyflawni yr amcan Dwyfol yn ein creadigaeth yn unig y gall bywyd fod yn fendith i ni. CG 58.1
Os bydd i ti fynd i weithio fel mae Crist yn bwriadu i’w ddisgyblion wneud, ac ennill eneidiau iddo Ef, bydd i ti deimlo angen am brofiad dyfnach a gwybodaeth lawnach mewn pethau Dwyfol, a newynnu a sychedu am gyfiawnder. Bydd i ti bledio gyda Duw, a’th ffydd a gryfheir, a’th enaid a ŷf ddrachtiau dyfnach o ffynnon yr iachawdwriaeth. Gwrthwynebiadau a threialon a’th arweiniant at y Beibl ac at weddi. Bydd i ti gynyddu mewn gras a gwybodaeth o Grist, a datblygu profiad cyfoethog. CG 58.2
Mae llafur anhunanol dros eraill yn rhoddi dyfnder, sefydlogrwydd, a hawddgarwch fel eiddo Crist i’r cymeriad, ac yn dwyn tangnefedd a hapusrwydd i’w berchennog. Dyrchefir gobeithion. Nid oes lle i ddiogi a hunanoldeb. Y rhai a ymarferant fel hyn y grasusau Cristionogol a gynyddant, ac a ddeuant yn gryfion i weithio dros Dduw. Bydd ganddynt ddirnadaethau ysbrydol clir, ffydd sefydlog, gynyddol, a nerth cynyddol mewn gweddi. Mae Ysbryd Duw wrth ymsymud ar wyneb eu hysbryd hwy, yn galw allan gerddoriaeth gysegredig yr enaid. yn atebiad i’r Dwyfol gyffyrddiad. rhai sydd fel hyn yn cysegru eu hunain i ymdrech anhunangar er lles eraill yw’r rhai sydd yn gweithio allan sicraf eu hiachawdwriaeth eu hunain. CG 58.3
Yr unig ffordd i gynyddu mewn gras ydyw gwneuthur yn hollol y gwaith a orchymynwyd arnom gan Grist heb elw personol mewn golwg - bod ar waith, hyd eithaf ein gallu, er cynorthwyo a bendithio y rhai hynny sydd mewn angen am y cymorth y gallwn roddi iddynt. Daw nerth drwy ymarferiad; gweithgarwch ydyw gwir amod bywyd. Y rhai hynny a ymdrechant gynnal bywyd Cristionogol trwy dderbyn yn oddefol y bendithion a ddaw drwy foddion gras, gan wneud dim dros Grist, a geisiant fyw yn unig trwy fwyta heb weithio. Ac yn y byd ysbrydol yn ogystal â’r naturiol, mae hyn bob amser yn terfynu mewn dirywiad a llygriad. Y dyn a wrthodai arfer ei aelodau a gollai yn fuan y gallu i’w defnyddio. Yr un modd y Cristion nad yw’n defnyddio y galluoedd a roddwyd iddo gan Dduw, nid yn unig a fetha gynyddu yng Nghrist, eithr cyll y nerth oedd ganddo yn barod. CG 58.4
Eglwys Crist a benodwyd gan Dduw er iachawdwriaeth dynion. Ei chenhadaeth yw cludo yr Efengyl i’r byd. Ac mae’r rhwymedigaeth yn perthyn i bob Cristion. Mae pob un, hyd eithaf ei dalent a’i gyfleustra, i gyfiawn i comisiwn y Gwaredwr. Mae cariad Crist, a ddatguddiwyd i ni, yn ein gwneud yn ddyledwyr i bawb na wyddant amdano. Rhoddodd Duw i ni oleuni, nid i ni ein hunain yn unig, ond i’w wasgar arnynt hwy. CG 59.1
Pe byddai canlynwyr Crist yn effro i ddyletswydd, byddai yna filoedd lle mae dim ond un heddiw yn cyhoeddi yr Efengyl mewn gwledydd paganaidd. A byddai pawb na all yn bersonol ymrwymo yn y gwaith, eto yn ei gynnal â’u heiddo, eu cydymdeimlad, a’u gweddiau. A byddai yna lafur llawer mwy egniol dros eneidiau mewn gwledydd Cristionogol. CG 59.2
Ni raid i ni fynd i’r gwledydd paganaidd. neu hyd yn oed adael cylch cyfyng cartref, os mai yno y gorffwys ein dyletswydd, er mwyn gweithio dros Grist. Gallwn wneud hyn yng nghylch y cartref, yn yr Eglwys, ymysg y rhai hynny y cymdeithaswn â hwy, a chyda’r rhai y gwnawn fasnach. CG 59.3
Treuliwyd y rhan fwyaf o fywyd ein Gwaredwr ar y ddaear mewn llafur amyneddgar yng ngweithdy’r saer yn Nasareth. Yr oedd angylion gwasanaethgar yn gweini ar Arglwydd y bywyd fel y rhodiai ochr yn ochr gyda gweision a gweithwyr, heb ei adnabod na’i anrhydeddu. Yr oedd yn cyflawni ei genhadaeth yr un mor ffyddlon wrth ddilyn ei alwedigaeth gyffredin a phan iachâi’r claf neu rodiai ar y tonnau a gurid gan storm yng Ngalilea. Gallwn felly rodio a gweithio gyda’r Iesu, yn y dyletswyddau mwyaf darostyngol a safleoedd isaf bywyd. CG 59.4
Yr Apostol a ddywed, “Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.” 1 Cor. 7:24. Gall y masnachwr gario ymlaen ei fasnach mewn ffordd a ogonedda ei Feistr oherwydd ei onestrwydd. Os yw yn wir ganlynwr Crist, fe gluda ei grefydd i bopeth a wneir, a datguddia i ddynion ysbryd Crist. Gall y creftwr fod yn gynrychiolydd diwyd a ffyddlon i’r hwn a lafuriodd yn rhodfeydd isel bywyd rhwng bryniau Galilea. Dylai pob un sydd yn enwi enw Crist weithio yn y fath fodd, fel y byddo i eraill, wrth weld ei weithredoedd da, gael eu harwain i ogoneddu eu Creawdwr a’u Gwaredwr. CG 59.5
Mae llawer wedi esgusodi eu hunain rhag rhoddi eu gwasanaeth i Crist oherwydd fod eraill yn meddu doniau a manteision uwch. Mae syniad wedi ymledu mai y rhai hynny sydd yn neilltuol dalentog yn unig sydd i gysegru eu galluoedd i wasanaeth Duw. Y mae llawer yn meddwl na roddir talentau ond i ddosbarth breintiedig, ar draul cau allan eraill, ac na ellir galw arnynt i gyfranogi yn y llafur na’r gwobrwyon. Eithr nid felly y dywed y ddameg. Pan alwodd arglwydd y tŷ ar ei weision, roes i bob un ohonynt ei waith. CG 60.1
Gydag ysbryd hawddgar y gallwn gyflawni dyletswyddau isaf bywyd “megis i’r Arglwydd.” Col. 3:23. Os yw cariad Duw yn y galon, bydd yn amlwg yn y bywyd. Bydd i bêrarogl Crist ein hamgylchu, a bydd i’n dylanwad ddyrchafu a bendithio. CG 60.2
Nid wyt i aros am achlysuron pwysig na disgwyl cymwysterau anghyffredin cyn mynd i weithio dros Dduw. Ni raid i ti ystyried beth a feddylia y byd amdanat. Os yw dy fywyd beunyddiol yn dystiolaeth i burdeb a chywirdeb dy ffydd, a bod eraill yn argyhoeddedig dy fod yn dymuno eu llesau ni bydd i’th ymdrechion gael eu colli yn llwyr. CG 60.3
Gall yr isaf a’r tlotaf o ddisgyblion yr Iesu fod yn fendith i eraill. Dichon na fyddant yn sylweddoli eu bod yn gwneud dim daioni neilltuol, ond trwy eu dylanwad anymwybodol gallant gychwyn tonnau o fendith a ledant ac a ddyfnhânt, a dichon na chant fyth wybod y canlyniadau bendithiol hyd ddydd olaf y gwobrwyo. Nid ydynt yn teimlo nac yn gwybod eu bod yn gwneud dim byd mawr. Ni ofynnir iddynt ymboeni gan bryder ynghylch llwyddiant. Nid oes angen iddynt ond mynd ymlaen yn ddistaw, gan wneud yn ffyddlon y gwaith a fwriada rhagluniaeth Duw iddynt, ac ni fydd eu bywyd yn ofer. Bydd i’w heneidiau eu hunain gynyddu yn CG 60.4