Camau at Grist
Article 11—Rhagorfraint gweddi
TRWY NATUR A datguddiad, trwy ei ragluniaeth, a thrwy ddylanwad ei Ysbryd, y mae Duw yn llefaru wrthym. Eithr nid yw’r rhai hyn yn ddigon; rhaid i ninnau hefyd dywallt allan ein calonnau iddo Ef. Er mwyn cael bywyd ysbrydol a grymusder rhaid i ni gael cyfathrach weithredol â’n Tad Nefol. Gall ein meddyliau gael eu tynnu allan tuag ato Ef; gallwn fyfyrio ar ei weithredoedd, ei drugareddau, ei fendithion; eithr nid yw hyn, yn yr ystyr lawnaf, yn gymundeb ag Ef. Er mwyn dal cymundeb â Duw, rhaid fod gennym rhywbeth i’w ddweud wrtho am ein bywyd fel ag y mae. CG 68.1
Gweddi yw agoriad y galon i Dduw megis i gyfaill. Nid am fod hynny yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn hysbys i Dduw yr hyn ydym, ond er mwyn ein galluogi ni i’w dderbyn Ef. Nid yw gweddi yn dwyn Duw i lawr atom ni, ond ein dwyn ni i fyny ato Ef. CG 68.2
Pan oedd Iesu ar y ddaear dysgodd ei ddisgyblion sut i weddio. Cyfarwyddodd hwynt i osod eu hanghenion beunyddiol gerbron Duw, a bwrw eu holl ofal arno Ef. Ac mae’r sicrwydd a roddodd iddynt y gwrandewid eu deisyfiadau, yn sicrwydd i ninnai hefyd. CG 68.3
Yr oedd Iesu ei hunan, pan drigai gyda dynion, yn fynych mewn gweddi. Ystyriai y Gwaredwr ei hun yn un â ninnau yn ein anghenion a’n gwendidau, yn gymaint ag y daeth yn ymbiliwr a gweddiwr, gan geisio oddi wrth ei Dad gyflenwadau adnewyddol o nerth, fel y gallai ddyfod allan wedi ymwregysu ar gyfer dyletswydd a phrofedigaeth. Mae yn esiampl i ni ym mhob peth. Mae yn frawd yn ein gwendidau, “wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau;” Heb 4:15. ond fel y dibechod ciliai ei natur oddi wrth ddrwg; dioddefodd ymrysonau ac arteithiau enaid mewn byd o bechod. Gwnaeth ei ddynoliaeth weddi yn angenrheidrwydd a braint. Yr oedd yn cael cysur a llawenydd mewn cymundeb â’i Dad. Ac os oedd Gwaredwr dynion, Mab Duw, yn teimlo angen gweddi, pa faint mwy y dylai pechaduriaid gwan deimlo yr angenrheidrwydd am weddi wresog barhaus! CG 68.4
Mae ein Tad Nefol yn disgwyl am gael rhoddi arnom gyflawnder ei fendith. Ein braint ydyw cael yfed yn helaeth o ffynnon cariad anherfynol. Y fath syndod yw ein bod yn gweddio cyn lleied! Mae Duw yn barod ac ewyllysgar 1 wrando gweddi gywir yr isaf o’i blant, ac eto mae yna gryn anfodlonrwydd o’n tu ni i hysbysu ein anghenion i Dduw. Beth all fod angylion y nef yn ei feddwl o drueiniaid, sydd yn ddarostyngedig i demtasiwn, tra bo calon anfeidrol gariad Duw yn cynhyrfu gan dosturi tuag atynt, yn barod i roddi iddynt fwy nac y gallant ofyn neu feddwl amdano, a hwythau er hynny yn gweddïo cyn lleied, a chanddynt cyn lleied o ffydd? Mae’r angylion yn caru ymostwng gerbron Duw; maent yn caru bod yn agos ato. Ystyriant gymundeb â Duw fel eu llawenydd pennaf; ac eto ymddengys plant y ddaear, sydd mewn cymaint o angen am y cymorth na all ond Duw yn unig ei roddi, yn fodlon i rodio heb oleuni ei Ysbryd. cymdeithas ei bresenoldeb. CG 69.1
Mae tywyllwch yr un drwg yn cau am y rhai sy’n esgeuluso gweddio. Mae temtasiynau sibrydol y gelyn yn eu hudo i bechod; ac mae hyn oll am na wnânt ddefnydd o’r rhagorfreintiau a roddwyd iddynt gan Dduw yn yr apwyntiad Dwyfol o weddi. Paham y dylai meibion a merched Duw fod yn hwyrfrydig i weddio, pan fo gweddi yn agoriad yn llaw ffydd i agor stordy’r nefoedd, lie mae adnoddau diderfyn Hollalluowgrwydd? Heb weddi ddibaid a gwyliadwriaeth ddyfal, yr ydym mewn perygl o dyfu yn ddiofal ac o wyro oddi ar y llwybr iawn. Ceisia y gwrthwynebwr yn barhaus rwystro y ffordd at y drugareddfa, fel na byddo i ni trwy daer ymbil a ffydd dderbyn gras a nerth i wrthwynebu temtasiwn. CG 69.2
Mae yna amodau penodol ar ba rai y gallwn ddisgwyl y gwna Duw wrando ac ateb ein gweddïau. Un o’r rhai cyntaf ohonynt ydyw ein bod yn teimlo ein hangen am help oddi wrtho Ef. Y mae wedi addo, “Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir.” Esa. 44:3. Gall y rhai sydd â newyn a syched am gyfiawnder, y rhai sydd yn hiraethu am Dduw, fod yn sicr y cant eu llanw. Ond rhaid i’r galon fod yn agored i ddylanwad yr Ysbryd, onide ni ellir derbyn bendith Duw. CG 69.3
Mae ein mawr angen ei hunan yn ymresymiad, ac yn eiriol mor huawdl ar ein rhan. Eithr rhaid yw ceisio yr Arglwydd i wneud y pethau hyn i ni. Efe a ddywed, “Gofynnwch, a rhoddir i chwi.” Hefyd “Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth.’ Matt. 7:7; Rhuf. 8:32. CG 70.1
Os ydym yn mawrhau anwiredd yn ein calonnau, os ydym yn glynu wrth rhyw bechod gwybyddus, ni bydd i’r Arglwydd ein gwrando; ond y mae gweddi’r enaid edifeiriol cystuddiedig, bob amser yn gymeradwy. Pan wneir yn union bob camwedd gwybyddus, gallwn gredu y gwna Duw ateb ein deisyfiadau. Ni wna ein haeddiant ein hunain byth ein cymeradwyo i ffafr Duw; haeddiant yr Iesu a’n ceidw, ei waed Ef a’n glanhâ; eto mae gennym waith i’w gyflawni i gydymffurfio ag amodau cymeradwyaeth. CG 70.2
Elfen arall mewn gweddi Iwyddiannus ydyw ffydd. “Oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef.” Dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.” Heb. 11:6; Marc 11:24. A ydym ni yn ei gymryd ar ei air? CG 70.3
Mae’r addewid yn llydan ac heb derfyn, a ffyddlon yw’r Hwn a addawodd. Pan na dderbyniwn yn hollol y pethau y gofynwn amdanynt, yr ydym eto i gredu fod yr Arglwydd yn gwrando, ac yr ateba ein gweddiau. Yr ydym ni mor gyfeiliornus a chibddall fel ein bod weithiau yn gofyn am bethau na fydd yn fendith i ni, ac mae ein Tad Nefol o’i gariad yn ateb ein gweddïau trwy roddi i ni yr hyn fydd er ein daioni uchaf - yr hyn y byddem ni ein hunain yn ei ddymuno pe gallem weld pob peth fel y maent mewn gwirionedd gyda gwelediad dwyfol oleuedig. Pan ymddengys fod ein gweddïau heb gael eu hateb, yr ydym i ddal gafael yn yr addewid; canys mae’r amser i ateb yn sicr o ddyfod, a derbyniwm y fendith yr ydym mewn mwyaf o angen amdani. Ond tybiaeth ydyw honni y bydd i weddi bob amser gael ei hateb yn union yn y ffordd ac er rhoddi y peth neilltuol a ddymunwn ni. Mae Duw yn rhy ddoeth i gyfeiliorni, ac yn rhy dda i atal daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. Gan hynny nac ofnwch ymddiried ynddo, hyd yn oed er nad ydych yn gweld yr atebiad uniongyrchol i’ch gweddiau. Ymddiriedwch yn ei addewid sicr, “Gofynnwch, a rhoddir i chwi.” CG 70.4
Os ymgynghorwn à’n hamheuon a’n hofnau, neu geisio datrys pob peth na allwn ei weld yn glir, cyn y bydd gennym ffydd, ni wna dyryswch ond cynyddu a dyfnhau. Ond os deuwn at Dduw, gan deimlo yn ddigynorthwy a dibynnol, fel yr ydym mewn gwirionedd, a gwneud yn hysbys ein hanghenion mewn ffydd ymddiriedol ostyngedig i’r Hwn sydd â’i wybodaeth yn anfeidrol, yr Hwn a wêl bob peth mewn creadigaeth, a’r Hwn sydd yn llywodraethu pob peth â’i ewyllys a’i air, Efe a all ac a wna dalu sylw i’n cri, ac a bâr i oleuni dywynnu i’n calonnau. Trwy weddi ddiragrith fe’n dygir i gysylltiad â meddwl yr Anfeidrol. Dichon na fydd gennym ar y pryd un prawf arbennig fod wyneb ein Prynwr yn gwyro mewn tosturi a chariad i edrych arnom; eithr hyn yn wir yw’r ffaith. Hwyrach na theimlwn ei gyffyrddiad gweledig, eithr mae ei law arnom mewn cariad a thynerwch tosturiol. CG 71.1
Pan ddeuwn i ofyn trugaredd a bendith gan Dduw, dylem gael ysbryd cariad a maddeuant yn ein calonnau. Pa fodd y gallwn weddio, “Maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr” (Matt. 6:12), ac eto anwesu ysbryd anfaddeugar? Os ydym yn disgwyl i’n gweddïau ein hunain gael eu gwrando, rhaid i ni faddau i eraill yn yr un dull, ac i’r un graddau, ag y gobeithiwn gael maddau i ni. CG 71.2
Mae dyfal-barhad mewn gweddi wedi ei wneud yn amod derbyniad. Rhaid i ni weddïo yn ddibaid os mynnwn gynyddu mewn ffydd a phrofiad. Yr ydym i “ddyfalbarhau mewn gweddi,” i “barhau mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch.” Rhuf. 12:12; Col. 4:2. Pedr a gynghora gredinwyr i fod yn “sobr, a gwyliadwrus i weddïau” 1 Pedr. 4:7. Paul a gyfarwydda, “Ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw.” Phil. 4:6. “Eithr chwychwi, anwylyd” meddai Judas, “gan . . . weddio yn yr Ysbryd Glân, ymgedwch yng nghariad Duw.” Judas 20, 21. Gweddi ddibaid ydyw undeb didor yr enaid gyda Duw, nes mae bywyd oddi wrth Dduw yn llifo i’n bywyd ni; ac o’n bywyd ninnau llifa purdeb a sancteiddrwydd yn ôl at Dduw. CG 71.3
Mae angen am ddiwydrwydd mewn gweddi; na foed i ddim dy rwystro. Gwna bob ymdrech i gadw yn agored y cymundeb rhwng yr Iesu a’th enaid dy hun. Achub bob cyfle i fynd lle mae gweddi yn cael ei harfer. Y rhai hynny sydd mewn gwirionedd yn ceisio cymundeb â Duw a welir yn y cyfarfod gweddi, yn ffyddlon i gyflawni eu dyletswydd, ac yn ddifrifol a phryderus am fedi yr holl fanteision y gallant ennill. Defnyddiant bob cyfleustra i osod eu hunain lle gallant dderbyn pelydrau y goleuni o’r nef. CG 71.4
Dylem weddio hefyd yn y cylch teuluaidd; ac uwchlaw y cwbl rhaid i ni beidio esgeuluso gweddi ddirgel, canys dyma fywyd yr enaid. Amhosibl yw i’r enaid Iwyddo tra yr esgeulusir gweddi. Nid yw gweddi deuluaidd neu gyhoeddus yn unig yn ddigon. Mewn unigedd boed i’r enaid gael ei osod yn agored i lygad Duw sydd yn edrych i mewn. Mae gweddi ddirgel yn cael ei gwrando yn unig gan y Duw sydd wrandawr-gweddi. Nid oes un glust gywrain i dderbyn baich y cyfryw ddeisyfiadau. Mewn gweddi dirgel mae’r enaid yn rhydd oddi wrth ddylanwadau allanol, yn rhydd oddi wrth gyffroad. Yn dawel, eto yn wresog, y bydd i’r enaid ymestyn allan at Dduw. Hyfryd ac arhosol fydd y dylanwad a lifa oddi wrth yr Hwn a wêl yn y dirgel, yr Hwn sydd yn gwrando y weddi a esgyna o’r galon. Trwy ffydd seml, dawel. deil yr enaid gymundeb â Duw, a chasgla iddo ei hunan belydrau dwyfol oleum i’w nerthu a’i gynnal yn y frwydr â Satan. Duw yw tŵr ein nerth. CG 72.1
Gweddïa yn dy ystafell-ddirgel; ac fel y byddi yn mynd ynghylch dy lafur dyddiol gad i’th galon yn aml esgyn i fyny at Dduw. Dyma fel yr oedd Enoch yn rhodio gyda Duw. Mae’r gweddiau distaw hyn yn esgyn fel arogl-darth gwerthfawr gerbron gorsedd gras. Ni all Satan orchfygu yr hwn y mae ei galon fel hyn wedi ei sefydlu ar Dduw. CG 72.2
Nid oes nac amser na lle amhriodol i offrymu gweddi i Dduw. Nid oes dim all ein cadw rhag dyrchafu ein calonnau mewn ysbryd gweddi daer. Yn nhorfeydd yr heol, yng nghanol ymrwymiad masnachol, gallwn anfon ddeisyfiad at Dduw, ac eiriol am arweiniad Dwyfol, fel y gwnaeth Nehemiah wrth osod ei gais gerbron y brenin Artacsercses. Gellir canfod dirgelfa cymundeb pa le bynnag yr ydym. Dylem adael drws y galon yn agored bob amser, a’n gwahoddiad yn esgyn fel y gallo yr Iesu ddyfod ac aros fel ymwelydd nefol yn yr enaid. CG 72.3
Er y gall fod o’n hamgylch awyrgylch heintus, lygredig, ni raid i ni anadlu ei sawr, ond gallwn fyw yn awyr bur y nef. Gallwn gau bob drws rhag dychymygion amhur a meddyliau ansanctaidd trwy ddyrchafu yr enaid i bresenoldeb Duw trwy weddi daer. Y rhai hynny sydd a’u calonnau yn agored i dderbyn cymorth a bendith Duw a rodiant mewn awyrgylch sancteiddiach nac eiddo y ddaear, a chânt gymundeb cyson â’r Nefoedd. CG 72.4
Mae arnom angen am gael golwg gliriach ar yr Iesu, ac amgyffrediad llawnach o werth y sylweddau tragwyddol. Bydd i brydferthwch sancteiddrwydd lanw calonnau plant Duw; ac er dwyn hyn i fod dylem geisio dadleniadau Dwyfol o bethau nefol. CG 73.1
Bydded i’r enaid gael ei dynnu allan ac i fyny, fel y gallo Duw ganiatâu i ni anadliad o’r awyrgylch nefol. Gallwn gadw mor agos at Dduw fel y byddo in meddyliau ym mhob profedigaeth annisgwyliadwy droi ato Ef mor naturiol ag y try y blodeuyn at yr haul. CG 73.2
Cadw dy anghenion, dy lawenydd, dy drallodion, dy ofalon, a’th ofnau gerbron Duw. Ni elli ei orlwytho Ef; ni elli ei flino Ef. Nid yw’r Hwn sydd yn cyfrif gwallt dy ben yn ddifater ynghylch anghenion ei blant. “Oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog.” Iago 5:11. Cyffyrddir ei galon o gariad gan ein trallodion, ac hyd yn oed gan ein mynegiad ohonynt. Dwg ato Ef bob peth sydd yn drysu’r meddwl. Nid oes dim yn rhy fawr ganddo Ef ei ddwyn, oblegid y mae yn cynnal bydoedd, mae yn llywodraethu dros holl amgylchiadau y cyfanfyd. Nid oes dim sydd mewn unrhyw ffordd yn dal perthynas â’n heddwch ni yn rhy fychan iddo Ef sylwi arno. Nid oes yr un bennod yn ein profiad yn rhy dywyll iddo Ef ei darllen; yr un dryswch yn rhy anodd iddo Ef ei ddatrys. Ni all unrhyw ddrygfyd ddigwydd i’r lleiaf o’i blant, unrhyw bryder flino yr enaid, unrhyw lawenydd sirioli, unrhyw weddi gywir ddianc oddi ar y gwefusau, heb i’n Tad Nefol sylwi arnynt, neu heb iddo deimlo diddordeb uniongyrchol ynddynt. “Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.” Salm 147:3. Mae’r berthynas rhwng Duw a phob enaid unigol mor wahanol a llawn â phe na buasai yna enaid arall ar y ddaear i gyfranogi o wyliadwriaeth ei ofal, un enaid arall dros yr hwn y rhoddodd ei annwyl Fab. CG 73.3
Yr Iesu a ddywedodd, “Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi.” “Myfi a’ch dewisais chwi, . . . megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.” Ioan 16:26, 27; 15:16. Ond mae gweddio yn enw Iesu yn rhywbeth mwy na chrybwyll yr enw hwnnw yn unig ar ddechrau a diwedd gweddi. Golyga weddio ym meddwl ac ysbryd yr Iesu, tra yn credu ei addewidion, ymddiried yn ei ras, a gweithio ei waith. CG 73.4
Nid yw Duw eisiau i neb ohonom ddyfod yn feudwyon neu fynachod, ac ymneilltuo o’r byd i ymgysegru i weithredoedd o addoliad. Rhaid i’r bywyd fod yn gyffelyb i fywyd Crist - rhwng y mynydd a’r tyrfaoedd. Yr hwn nad yw yn gwneud dim ond gweddio yn fuan a beidia â gweddïo, neu bydd i’w weddïau ddyfod yn arfer a defod ffurfiol. Pan gymer dynion eu hunain allan o fywyd cymdeithasol, allan o gylch dyletswydd Gristionogol a dwyn y groes; pan beidiant â gweithio o ddifrif dros y Meistr, yr hwn a weithiodd o ddifrif drostynt hwy, hwy a gollant ddefnydd gweddi, ac ni bydd ganddynt symbyliad i ymroddiad. Daw eu gweddïau yn bersonol a hunanol. Ni allant weddïo gyda golwg ar anghenion dynolryw, nac ar adeiladu deyrnas Crist,gan eiriol am nerth i weithio. CG 74.1
Yr ydym yn cael colled pan esgeuluswn y rhagorfraint o gymdeithasu ynghyd i gryfhau a chalonogi y naill a’r llall yng ngwasanaeth Duw. Cyll gwirioneddau ei Air eu bywiogrwydd a’u pwysigrwydd yn ein meddyliau. Peidia ein calonnau â chael eu goleuo a’u cyffroi gan y dylanwad sancteiddiol, a bydd i ni adfeilio mewn ysbrydolrwydd. Yn ein cymdeithas â’n gilydd fel Cristionogion yr ydym yn colli llawer trwy ddiffyg cydymdeimlad y naill gyda’r llall. Yr hwn sydd yn cau ei hunan i fyny iddo ei hun nid yw yn llanw’r safle y bwriadodd Duw iddo. Mae diwylliad priodol yr elfenau cymdeithasol yn ein natur yn ein dwyn i gydymdeimlad ag eraill, ac yn foddion datblygiad a nerth i ni yng ngwasanaeth Duw. CG 74.2
Pe mynnai Cristionogion gymdeithasu a’u gilydd, gan siarad y naill wrth y llall am gariad Duw, ac am wirioneddau gwerthfawr y brynedigaeth, adnewyddid eu calonnau eu hunain, a hwy a adnewyddent ei gilydd. Gallwn bob dydd ddysgu mwy am ein Tad Nefol, gan ennill profiad newydd o’i ras; yna ni a ddymunwn siarad am ei gariad; ac fel y gwnawn hyn bydd i’n calonnau ein hunain gael eu cynhesu a’u calonogi. Pe meddyliem ac ymddiddanem fwy am Iesu, a llai am yr hunan, cawsem lawer mwy o’i bresenoldeb. CG 74.3
Pe mynnem ond meddwl am Dduw mor aml ag y cawn brawf o’i ofal amdanom, dylem ei gadw bob amser yn ein meddyliau, ac ymhyfrydu mewn siarad amdano a’i foliannu. Yr ydym yn siarad am bethau tymhorol am fod gennym ddiddordeb ynddynt. Yr ydym yn siarad am ein cyfeillion am ein bod yn eu caru; mae ein llawenydd a n tristwch wedi eu rhwymo i fyny gyda hwy. Eto mae gennym reswm anfeidrol fwy dros garu Duw na charu ein cyfeillion daearol, a dylai fod y peth mwyaf naturiol yn y byd i’w wneuthur Ef yn flaenaf yn ein holl feddyliau, i siarad am ei ddaioni a thraethu am ei allu. Ni fwriadwyd i’r doniau goludog a roddwyd i ni ganddo Ef lyncu ein meddyliau a’n cariad yn gymaint fel na byddo gennym ddim i’w gyflwyno i Dduw; y maent i’n hatgoffa yn wastadol ohono Ef, ac i’n rhwymo mewn rhwymau cariad a diolchgarwch wrth ein Cymwynaswr Nefol. Yr ydym yn trigo yn rhy agos i iseldiroedd y ddaear. Bydded i ni ddyrchafu ein golygon at ddrws agored y cysegr uchod, lle mae goleuni gogoniant Duw yn llewyrchu yng ngwyneb Crist, yr Hwn sydd yn abl “hefyd i gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw.” Heb. 7:25. CG 75.1
Rhaid i ni foli Duw yn fwy “am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion.” Salm 107:8. Ni ddylai ein hymarferiadau addolgar fod yn gyfangwbl mewn gofyn a derbyn. Na fydded i ni bob amser feddwl am ein anghenion, a byth am y bendithion a dderbyniwn. Nid ydym yn gweddio yn ormod, ond yr ydym yn rhy gynnil mewn rhoddi diolch. Yr ydym yn dderbynwyr cyson o drugareddau Duw, ac eto pa mor fach o ddiolch a ddangoswn, cyn lleied a foliannwn Ef am yr hyn a wnaeth i ni! CG 75.2
Archodd Duw ar Israel yn yr hen amser, pan wedi iddynt gyfarfod ynghyd yn ei wasanaeth, “A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.” Deut. 12:7. Dylai yr hyn a wneir er gogoniant Duw gael ei wneud gyda sirioldeb, gyda chaniadau o fawl a diolchgarwch, nid gyda thristwch a phrudd-der. CG 75.3
Mae ein Duw ni yn Dad tyner, trugarog. Ni ddylem edrych ar ei wasanaeth fel ymarferiad poenus sy’n tristáu’r galon. Dylai addoli’r Arglwydd, a chymryd rhan yn ei waith fod yn bleser. Ni fynnai Duw gael ei blant, i’r rhai y darparwyd iachawdwriaeth, i weithredu fel pe byddai Efe yn feistr caled a manwl. Efe yw eu cyfaill gorau: a phan addolant Ef disgwylia gael bod gyda hwynt, i’w bendithio a’u cysuro, gan lanw eu calonnau â llawenydd a chariad. Mae’r Arglwydd yn dymuno fod ei blant yn cymryd cysur yn ei wasanaeth, ac yn cael mwy o bleser na chaledi yn ei waith Ef. Mae’n ewyllysio i’r sawl a ddeuant i’w addoli Ef gludo ymaith i’w canlyn feddyliau gwerthfawr am ei ofal a’i gariad, fel y gallont gael eu sirioli yn holl oruchwylion bywyd dyddiol, ac y caffont ras i ddelio yn onest a ffyddlon ym mhob peth. CG 75.4
Rhaid i ni ymgasglu o gwmpas y groes. Crist, a Hwnnw wedi ei groeshoelio, ddylai fod yn destun ein myfyrdod, ein hymddiddan, a’n teimlad mwyaf gorfoleddus. Dylem gadw yn ein meddyliau bob bendith a dderbyniasom gan Dduw; a phan sylweddolwn ei fawr gariad, dylem ewyllysio ymddiried pob peth i’r llaw a hoeliwyd ar y groes er ein mwyn. CG 76.1
Gall yr enaid esgyn yn nes i’r nefoedd ar adenydd moliant. Addolir Duw â chân a cherddoriaeth yn y llysoedd fry, ac fel y byddwn yn datgan ein diolchgarwch, fe dynnwn yn nes at addoliad y lluoedd nefol. “Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i.” Salm 50:23. Bydded i ni gyda llawenydd parchusol ddyfod gerbron ein Creawdwr, gyda “diolch, a llais can.” Esa. 51:3. CG 76.2