Camau at Grist
Article 13—Llawenhau yn yr arglwydd
MAE PLANT DUW yn cael eu galw i fod yn gynrychiolwyr Crist, i ddangos daioni a thrugaredd yr Arglwydd. Fel y datguddiodd yr lesu i ni gymeriad y Tad, felly yr ydym ninnau i ddatguddio Crist i’r byd nas gẁyr ei gariad tyner, tosturiol. “Fel yr anfonaist fi i’r byd,” meddai yr lesu, “felly yr anfonais innau hwythau i’r byd.” “Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, ... fel y gwypo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i.” Ioan 17:18, 23. Dywed yr Apostol Paul wrth ddisgyblion yr Iesu, “Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych,” “yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn.” 2 Cor. 3:3, 2. Ym mhob un o’i blant mae’r lesu yn anfon llythyr i’r byd. Os wyt ti yn ddilynwr Crist, mae yn anfon ynot ti lythyr at y teulu, y pentref, yr heol, lle yr wyt yn byw. Mae’r Iesu, wrth drigo ynot. yn ewyllysio llefaru wrth galonnau y rhai hynny nad ydynt gydnabyddus ag Ef. Hwyrach nad ydynt yn darllen y Beibl, neu nad ydynt yn clywed y llais sydd yn llefaru wrthynt yn ei ddalennau; nid ydynt yn gweld cariad Duw drwy ei weithredoedd. Ond os wyt ti yn wir gynrychiolydd yr Iesu, dichon mai trwot ti yr arweinir hwy i ddeall rhywbeth o’i ddaioni, a’u hennill i’w garu a’i wasanaethu Ef. CG 84.1
Mae’r Cristionogion yn cael eu gosod fel dygwyr goleuni ar y ffordd i’r nefoedd. Maent i adlewyrchu i’r byd y goleuni a lewyrcha arnynt oddi wrth Grist. Dylai eu bywyd a’u cymeriad fod y fath, fel y caiff eraill drwyddynt hwy iawn syniad am Grist ac am ei wasanaeth. CG 84.2
Os ydym yn cynrychioli Crist, bydd i ni wneud ei wasanaeth ymddangos yn atyniadol, fel y mae mewn gwirionedd. Mae’r Cristionogion sydd yn casglu prudd-der a thristwch i’w heneidiau, ac yn cwyno a grwgnach, yn rhoddi i eraill gam-gynrychiolaeth o Dduw a’r bywyd Cristionogol. Rhoddant yr argraff nad yw Duw yn cael ei foddhau wrth weld ei blant yn ddedwydd; ac yn hyn maent yn dwyn cam-dystiolaeth yn erbyn ein Tad Nefol. CG 84.3
Mae Satan yn llamu gan lawenydd pan all arwain plant Duw i anghrediniaeth a digalondid. Mae yn ymhyfrydu ein gweld yn peidio ymddiried yn Nuw, ac yn amau ei barodrwydd a’i allu i’n hachub. Mae yn caru ein cael i deimlo y gwna yr Arglwydd niwed i ni drwy ei ragluniaethau. Gwaith Satan ydyw gosod yr Arglwydd allan fel un diffygiol mewn cydymdeimlad a thosturi. Fe gamosoda y gwirionedd â chamargraffiadau am Dduw. Lleinw y dychymyg â gwirionedd am Dduw; ac yn hytrach nac aros ar y gwirionedd am ein Tad Nefol, yr ydym yn rhy fynvch yn sefydlu ein meddyliau ar gamosodiadau Satan, ac yn dianrhydeddu Duw drwy beidio ymddiried ynddo a grwgnach yn ei erbyn. Mae Satan o hyd yn ceisio gwneud y bywyd crefyddol yn un o brudd-der. Dymuna iddo ymddangos yn llafurus ac anodd; a phan fo’r Cristion yn ei fywyd ei hun yn cyflwyno’r olwg yma ar grefydd, y mae drwy anghrediniaeth yn eilio cyfeiliornad Satan. CG 85.1
Mae llawer, wrth rodio ar hyd llwybr bywyd. yn aros ar eu camgymeriadau a’u methiannau a’u siomedigaethau, a llenwir eu calonnau â gofid a digalondid. Pan oeddwn yn Iwrop, ysgrifennodd chwaer oedd wedi bod yn gwneud hyn, ac a oedd mewn dwfn drallod, i ofyn i mi am rhyw air o gefnogaeth. Y noson ar ôl darllen ei llythyr, breuddwydiais fy mod mewn gardd, ac arweiniodd perchennog yr ardd fi drwy ei llwybrau. Yr oeddwn yn casglu y blodau ac yn mwynhau eu pêrarogl, pan dynnodd y chwaer hon, a gerddai wrth fy ochr, fy sylw at ryw fieri hyllion oedd yn rhwystro ei ffordd. Dyna He yr oedd hi yn galaru a thristhâu. Nid oedd yn cerdded ar y llwybr. gan ddilyn yr arweinydd, ond yn cerdded ymysg y mieri a’r drain. “O,” galarai, “onid yw yn resyn fod yr ardd brydferth hon yn cael ei difetha gan ddrain?” Yna dywedodd yr arweinydd. “Gadewch y drain yn llonydd, oblegid ni wnant hwy ond eich anafu. Casglwch y blodau. y lilis, a’r rhosynnau pine ” CG 85.2
Oni fu yna rhyw fannau disglair yn dy brofiad? Oni chefaist rai adegau gwerthfawr, pan oedd dy galon yn curo gan lawenydd mewn ateb i Ysbryd Duw? Wrth edrych yn ôl ar benodau profiad dy fywyd, onid wyt yn gweld rhai tudalennau hyfryd? Onid yw addewidion Duw, fel y blodau peraroglus, yn tyfu oddeutu dy Iwybr ar bob llaw? Oni addewi di i’w prydferthwch a’u hyfrydwch lenwi dy galon â llawenydd? CG 85.3
Ni wna y mieri a’r drain ond dy anafu a’th drallodi; ac os y bydd i ti gasglu ond y pethau hyn yn unig, a’u cyflwyno i eraill, onid wyt yn bychanu daioni Duw dy hunan, ac yn atal y rhai o’th gwmpas rhag rhodio yn llwybr y bywyd? CG 86.1
Nid doeth ydyw casglu ynghyd holl atgofion anhyfryd bywyd - ei anwireddau a’i siomedigaethau - siarad amdanynt a galaru amdanynt nes ein gorchfygu gan ddigalondid. Yr enaid a ddigalonnir ac a lenwir â thywyllwch, nes cau goleuni Duw allan oddi wrtho ei hun, gan daflu cysgod ar lwybr eraill. CG 86.2
Diolch i Dduw am y darluniau disglair a roddodd i ni! Gadewch ni grynhoi ynghyd addewidion bendigedig ei gariad, fel y gallwn edrych arnynt yn wastad. Mab Duw yn gadael gorsedd ei Dad, yn gwisgo ei Ddwyfoldeb â dynoliaeth, fel y gallo waredu dyn oddi wrth allu Satan; ei fuddugoliaeth er ein mwyn, yn agor y nef i ddynion, yn datguddio i olwg dynol y gyfarchfa lle mae’r Dwyfol yn dadlennu ei ogoniant; yr hil syrthiedig yn cael ei dyrchafu o bydew dinistr lle’r oedd pechod wedi ei suddo, a’i dwyn drachefn i gysylltiad â’r Duw anfeidrol; ac wedi dal y prawf Dwyfol drwy ffydd yn ein Prynwr, yn cael ei gwisgo â chyfiawnder Crist, a’i dyrchafu i’w orseddfainc - dyma’r darluniau y mynnai Duw ein cael i fyfyrio arnynt. CG 86.3
Pan ymddangoswn ein bod yn amau cariad Duw ac yn peidio ymddiried yn ei addewidion, yr ydym yn ei ddianrhydeddu Ef ac yn tristau ei Ysbryd Glân. Pa fodd y teimlai mam pe byddai ei phlant yn grwgnach o’i hachos yn barhaus, fel pe na byddai yn ewyllysio yn dda iddynt, a holl ymdrech ei bywyd wedi bod er hyrwyddo eu buddiannau a rhoddi cysur iddynt? Tybiwch eu bod yn amau ei chariad; torrai hynny ei chalon. Pa fodd y teimlai unrhyw riant o gael plentyn yn ymddwyn ato fel hyn? A pha fodd y gall ein Tad Nefol edrych arnom ni pan fyddwn yn gwrthod ymddiried yn ei gariad, a’i harweiniodd i roddi ei unig anedig Fab fel y caffom fywyd? Ysgrifenna yr apostol, “Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth.” Rhuf. 8:32. Ac eto sawl un a ddywed, mewn gweithred, os nad mewn gair, “Nid yw’r Arglwydd yn bwriadu hyn i mi. Hwyrach ei fod yn caru eraill, ond nid yw yn fy ngharu i.” CG 86.4
Niweidio dy enaid dy hun yw hyn oll; oblegid pob gair o amheuaeth a fynegi sy’n gwahodd temtasiynau Satan; mae yn cryfhau ynot y duedd i amau, ac yn tristáu yr angylion gwasanaethgar. Pan fydd Satan yn dy demtio, nac anadla air o amheuaeth na thywyllwch. Os dewisi agor y drws i’w awgrymiadau, llenwir dy feddwl â diffyg ymddiried a holi gwrthryfelgar. Os mynegi dy deimladau, mae pob amheuaeth nid yn unig yn adweithio yn dy erbyn, ond yn had a egina ac a ddwyn ffrwyth ym mywyd eraill, a dichon y bydd yn amhosibl gwrthweithio dylanwad dy ymadroddion. Dichon y byddi di dy hunan yn gwella oddi wrth y tymor o demtasiwn, ac o fagl y diafol; ond gall na fyddo eraill, a reolwyd gan dy ddylanwad di, yn alluog i ddianc rhag yr anghrediniaeth a awgrymaist. Mor bwysig ydyw i ni siarad yn unig y pethau hynny sy’n rhoi nerth a bywyd ysbrydol! CG 87.1
Mae angylion yn gwrando er clywed pa fath adroddiad yr wyt yn ei ddwyn i’r byd am dy Feistr nefol. Bydded i’th ymddiddan fod am yr Hwn sydd yn byw i eiriol drosot gerbron y Tad. Wrth gymryd llaw cyfaill boed i foliant i’r Arglwydd fod ar dy wefusau ac yn dy galon. Bydd hyn yn atynnu ei feddyliau at yr Iesu. CG 87.2
Mae gan bawb eu treialon; trallodion anodd eu dwyn, temtasiynau anodd i’w gwrthwynebu. Paid â mynegi dy drallodion i’th gyd-farwolion, eithr dyga y cyfan at Dduw mewn gweddi. Gwna reol i beidio byth â datgan un gair o amheuaeth na digalondid. Gelli wneud llawer i sirioli bywyd eraill a chryfhau eu hymdrechion trwy eiriau gobaith a sirioldeb sanctaidd. CG 87.3
Mae llawer enaid gwrol yn cael ei lethu gan demtasiwn, ac yn barod i lewygu yn y gwrthdaro â’r hunan a chyda galluoedd drygionus. Na ddigalonwch un felly yn ei ymdrech galed. Siriolwch ef â geiriau gwrol, gobeithiol; a’i cymhellant yn ei ffordd. Fel hyn gall goleuni Crist lewyrchu oddi wrthych chwi. “Nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun.” Rhuf. 14:7. Gall eraill drwy ein dylanwad anymwybodol gael eu calonogi a’u nerthu, neu gallant gael eu digaloni a’u gyrru oddi wrth Grist a’r gwirionedd. CG 87.4
Mae llawer a chanddynt syniad cyfeiliornus am fywyd a chymeriad Crist. Tybiant ei fod yn amddifad o gynhesrwydd a sirioldeb, ei fod yn arw, yn chwerw, a dilawenydd. Mewn llawer o achosion mae’r holl brofiad crefyddol yn cael ei liwio â’r syniadau pruddaidd hyn. CG 87.5
Dywedir yn fynych i’r Iesu wylo, ond na wybuwyd iddo erioed wenu. Yr oedd ein Gwaredwr yn wir yn ŵr gofidus a chynefin â dolur; canys agorodd ei galon i holl ofidiau dynion. Ond er fod ei fywyd yn hunanymwadol ac yn cael ei gymylu gan boen a gofal, ni lethwyd ei ysbryd. Ni wisgai ei wyneb-pryd argraff gofid a grwgnachrwydd, eithr bob amser argraff o degwch tangnefeddus. Yr oedd ei galon yn ffynnon ddihysbydd o fywyd; a pha le bynnag yr elai cludai orffwysdra a thangnefedd, llawenydd a llonder. CG 88.1
Yr oedd ein Gwaredwr yn ddwys ac o ddifrif, ond byth yn bruddglwyfus nac yn drymaidd. Bydd bywyd y rhai a’i hefelychant yn llawn amcan difrifol; bydd ganddynt syniad dwfn o gyfrifoldeb. Bydd i ysgafnder gael ei ddarostwng; ni fydd dim difyrrwch terfysgaidd, dim cellwair anfoesgar; ond y mae crefydd Iesu yn rhoddi heddwch fel yr afon. Nid yw yn diffodd goleuni llawenydd, nid yw yn lladd sirioldeb, nac yn cymylu’r wyneb llawen. Daeth Crist nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu; a phan deyrnasa ei gariad yn y galon, dilynwn ei esiampl. CG 88.2
Os cadwn weithredoedd angharedig ac anghyfiawn rhai eraill uchaf yn ein meddyliau, cawn y bydd yn amhosibl eu caru fel y carodd Crist ninnau; ond os erys ein meddyliau ar gariad a thosturi rhyfeddol Crist tuag atom, bydd i’r un ysbryd lifo allan i eraill. Dylem garu a pharchu ein gilydd, er y diffygion a’r amherffeithion na allwn beidio eu gweld. Dylid diwyllio gostyngeiddrwydd a diffyg ymddiried mewn hunan, a dylid bod yn amyneddgar gyda diffygion eraill. Bydd i hyn ladd pob hunanaeth gyfyngol, a’n gwneud yn eang-galon ac yn hael. CG 88.3
Dywed y Salmydd, “Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.” Salm 37:3. “Gobeithia yn yr Arglwydd.” Mae i bob diwrnod ei feichiau, ei ofalon a’i anhawsterau; a phan gyfarfyddwn, mor barod ydym i siarad am ein hanawsterau a’n treialon. Mae cymaint o drallodion benthyciol yn ymwthio i mewn, cymaint o ofnau yn cael eu hanwesu, y fath bwysau o bryder yn cael eu harddangos, fel y gallai un dybio nad oes gennym Waredwr tosturiol a chariadlon, yn barod i wrando ein holl ddeisyfiadau, ac i fod i ni yn gymorth pan mewn angen. CG 88.4
Mae rhai bob amser yn ofni, ac yn benthyca trallodion. Bob dydd y maent yn cael eu hamgylchynu ag arwyddion o gariad Duw; bob dydd y maent yn mwynhau rhoddion ei ragluniaeth; ond y maent yn edrych heibio y bendithion presennol yma. Mae eu meddyliau yn barhaus yn aros ar rhywbeth annymunol. yr ofnant sy’n dod. neu rhyw anhawster sy’n bodoli mewn gwirionedd. ac, er yn fychan, eu dallu i lawer o bethau sy’n haeddu ddiolchgarwch. Mae’r anhawsterau yr ymladdant yn eu herbyn, yn hytrach na’u gyrru at Dduw, unig ffynhonell eu cymorth, yn eu hysgaru oddi wrtho, oblegid eu bod yn deffro aflonyddwch ac ymddigiad. CG 88.5
A ydym yn gwneud yn iawn wrth anghredu fel hyn? Paham y dylem fod yn anniolchgar ac anobeithiol? Mae’r Iesu yn gyfaill i ni; mae’r holl nefoedd yn teimlo diddordeb yn ein llwyddiant. Ni ddylem oddef i anhawsterau a blinderau bywyd beunyddiol boeni y meddwl. Os gwnawn, cawn rhywbeth i’n poeni a’n blino o hyd. Ni ddylem feithrin pryder i’n poeni a’n trethu, pryder na chynorthwya ni i ddioddef ein treialon. CG 89.1
Efallai dy fod mewn dryswch masnachol; gall fod dy ragolygon yn mynd yn dywyllach a thywyllach, ac efallai fod colled yn dy fygwth; ond paid â digalonni; dyro dy ofal ar Dduw, ac aros yn dawel a siriol. Gweddïa am ddoethineb i reoli dy faterion gyda challineb. a thrwy hynny osgoi colled a thrychineb. Gwna yr oil a elli dy hunan i ddwyn canlyniadau ffafriol. Mae’r Iesu wedi addo ei gymorth, ond nid ar wahân i’n hymdrech ni. Pan, wrth ymddiried yn dy Gynorthwywr, y byddi wedi gwneud pob peth a elli, derbyn y canlyniad yn siriol. CG 89.2
Nid yw yn ewyllys Duw fod i’w bobl gael eu trethu â gofal. Eithr nid yw ein Harglwydd am ein twyllo. Ni ddywed wrthym, “Nac ofnwch; nid oes peryglon yn eich llwybr.” Gŵyr Ef fod yna dreialon a pheryglon, ac y mae yn delio gyda ni yn blaen. Nid yw yn cynnig cymryd ei bobl allan o fyd pechod a drygioni, ond mae yn eu cyfeirio at noddfa na fetha byth. Ei weddi ar ran ei ddisgyblion oedd, “Nid wyf yn gweddio ar i ti eu cymryd hwynt allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.” “Yn y byd.” meddai, “gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur. myfi a orchfygais y byd.” loan 17:15; 16:33. CG 89.3
Dysgodd Crist i’w ddisgyblion, yn ei Bregeth ar y Mynydd, wersi gwerthfawr am yr angenrheidrwydd o ymddiried yn Nuw. Bwriadwyd y gwersi hyn i galonogi plant Duw ym mhob oes, ac y maent wedi dyfod i lawr i’n dyddiau ni yn llawn addysg a chysur. Galwodd y Gwaredwr sylw ei ganlynwyr at adar y nefoedd fel y canent eu carolau o fawl heb fod yn llwythog gan ofalon, “oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi.” Ac eto mae y Tad mawr yn darpar ar gyfer eu hanghenion. Gofynna y Gwaredwr, “Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?” Matt. 6:26. Mae Gofalwr mawr dyn ac anifail yn agor ei law a diwallu ei holl greaduriaid. Nid yw adar y nefoedd islaw ei sylw. Nid yw yn rhoddi y bwyd yn eu pigau, eithr darpara ar gyfer eu hanghenion. Rhaid iddynt gasglu y gronynnau a wasgarodd iddynt. Rhaid iddynt baratoi y defnydd ar gyfer eu nythod bychain. Rhaid iddynt borthi eu cywion. Ânt allan dan ganu at eu gwaith, oblegid “mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy.” Ac “onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?” Onid ydych chwi, fel addolwyr deallgar, ysbrydol, o fwy o werth nac adar y nefoedd? Oni wna Awdur ein bodolaeth, Ceidwad ein bywyd, yr Hwn a’n lluniodd ar ei ddelw Ddwyfol ei hun, ddarpar ar gyfer ein hanghenion ond i ni ymddiried ynddo? CG 89.4
Cyfeiriodd Crist ei ddisgyblion at flodau’r maes, sy’n tyfu mewn helaethrwydd goludog, ac yn danlliw yn y prydferthwch syml a roddwyd iddynt gan y Tad Nefol, fel arddangosiad o’i gariad at ddyn. Dywedodd, “Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu.” Mae prydferthwch a symlrwydd y blodau naturiol hyn yn tra-ragori ar ogoniant Solomon. Ni all y wisg orwychaf a gynyrchwyd gan fedr celfyddyd ddal cymhariaeth â harddwch naturiol a phrydferthwch llachar blodau creadigaeth Duw. Gofynna Crist, “Os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?” Matt. 6:28, 30. Os yw Duw, yr Arlunydd Dwyfol, yn rhoddi i’r blodau syml sydd mewn un dydd yn trengi, eu lliwiau tyner ac amrywiol, pa faint mwy o ofal a gymer dros y rhai a grewyd ar ei lun! Mae’r wers hon o eiddo Crist yn gerydd i’r meddwl gorbryderus, i ddryswch ac amheuaeth y galon ddi-ffydd. CG 90.1
Dymuna’r Arglwydd fod ei holl feibion a’i ferched yn hapus, tangnefeddus, ac ufudd. Yr Iesu a ddywed, “Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; ... nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.” “Hyn a ddywedais wrthych. fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyfiawn.” Ioan 14:27; 15:11. CG 90.2
Yr hapusrwydd a geisir oddi ar gymhellion hunanol, tu allan i lwybr dyletswydd, sydd yn anghytbwys, yn oriog a diflanedig; y mae yn mynd ymaith, a llenwir yr enaid ag unigrwydd a gofid; ond y mae llawenydd a bodlonrwydd yng ngwasanaeth Duw; ni adewir y Cristion i rodio llwybrau ansicr; ni adewir ef i ymofidiau ofer a siomedigaethau. Os nad ydym yn cael pleserau y bywyd hwn, gallwn er hynny fod yn llawen wrth edrych at y bywyd sydd draw. CG 91.1
Ond hyd yn oed yma gall Cristionogion gael y llawenydd o gymundeb â Christ; gallant gael goleuni ei gariad, diddanwch tragwyddol ei bresenoldeb. Gall pob cam mewn bywyd ein dwyn yn nes at Iesu, gall roddi i ni brofiad dyfnach o’i gariad, a gall ein dwyn gam yn nes at gartref dedwydd tangnefedd. Gan hynny na fwriwn ymaith ein hyder, ond mynnwn sicrwydd cadarnach, cadarnach nac erioed o’r blaen. “Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd” (1 Sam. 7:12), ac Efe a’n cynnal hyd y diwedd. Boed i ni edrych ar y cofgolofnau, atgofion o’r hyn a wnaeth yr Arglwydd i’n diddanu ni ac i’n cadw o law y distrywiwr. Boed i ni gadw yn fyw yn ein cof yr holl drugaredd tyner a ddangosodd Duw tuag atom - y dagrau a sychodd ymaith. y poenau a leddfodd, y pryderon a symudodd, yr ofnau a ymlidiwyd, yr anghenion a ddiwallwyd, y bendithion a roddwyd, a thrwy hynny ymgryfhau ar gyfer yr oll sydd o’n blaen drwy weddill ein pererindod. CG 91.2
Ni allwn lai nac edrych ymlaen at anhawsterau newydd yn yr ymgyrch sydd i ddod; ond gallwn edrych ar y pethau a aeth heibio, yn ogystal ag ar y pethau sydd i ddyfod, gan ddweud, “Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd ni.” “Megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.” Deut. 33:25. Ni bydd y brofedigaeth yn fwy na’r nerth a roddir i ni i’w dwyn. Gan hynny gadewch i ni gymryd i fyny ein gwaith yn union lle cawn ef, gadewch i ni gredu pa beth bynnag a ddaw, y rhoddir i ni nerth cyfartal i’r prawf. CG 91.3
Ac yn y man teflir pyrth y nef yn agored i dderbyn plant Duw, ac oddi ar wefusau Brenin y Gogoniant y disgyn y fendith ar eu clustiau fel cerddoriaeth goeth, “Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd.” Matt. 25:34. CG 91.4
Y pryd hynny y croesawir y gwaredigion i’r cartref a baratoir iddynt gan yr Iesu. Yno nid gwaelion y ddaear fydd eu cymdeithion; cclwyddwyr, eilunaddolwyr, y rhai amhur ac anghrediniol; eithr hwy a gymdeithasant a’r rhai hynny a orchfygasant Satan, a thrwy ddwyfol ras a ffurfiodd gymeriadau perffaith. Mae pob tuedd bechadurus, pob amherffeithrwydd sydd yn eu blino yma, wedi eu symud drwy waed Crist; a chyfrennir iddynt hwythau ragoriaeth a disgleirdeb ei ogoniant Ef, yr hwn sydd yn tra-ragori ar ddisgleirdeb yr haul. Ac mae’r prydferthwch moesol. perffeithrwydd ei gymeriad Ef, yn tywynnu drwyddynt, mewn gwerth llawer rhagorach na’r ysblander allanol yma. Maent yn ddi-fai gerbron yr orsedd wen fawr. yn cyfranogi o urddas a rhagorfreintiau’r angylion. CG 92.1
Yn yr olwg ar yr etifeddiaeth ogoneddus all fod yn eiddo iddo, “pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?” Matt. 16:26. Gall ei fod yn dlawd, eto medda ar gyfoeth ac urddas na allai y byd byth ei roddi. Yr enaid a waredwyd ac a olchwyd oddi wrth bechod. gyda’i holl gyneddfau ardderchog yn gyflwynedig i wasanaeth Duw. sydd o werth rhagorach; ac y mae llawenydd yn y nef yng ngŵydd Duw a’r angylion sanctaidd am un enaid achubedig - llawenydd yn cael ei ddatgan mewn caniadau o fuddugoliaeth sanctaidd. CG 92.2