Camau at Grist

2/13

Article 2—Angen y pechadur am Grist

CAFODD DYN YN wreiddiol ei gynysgaeddu â galluoedd urddasol a meddwl cytbwys. Yr oedd yn berffaith yn ei hanfod, ac mewn cytgord â Duw. Yr oedd ei feddyliau yn bur, ei amcanion yn sanctaidd. Ond trwy anufudd-dod, llygrwyd ei alluoedd, a chymerodd hunanoldeb le cariad. Daeth ei natur mor wan drwy gamweddau fel yr oedd yn amhosibl iddo, yn ei nerth ei hun, wrthsefyll gallu pechod. Gwnaed ef yn gaethwas gan Satan, a byddai wedi aros felly byth pe na bai Duw wedi ymyrryd mewn ffordd arbennig. Bwriad y temtiwr oedd rhwystro y cynllun Dwyfol yng nghreadigaeth dyn, a llanw y ddaear â gwae ac anrhaith. A byddai Satan wedi cyfeirio at y drwg yma i gyd fel canlyniad gwaith Duw yn creu dyn. CG 13.1

Yn ei sefyllfa ddibechod, daliai dyn gymundeb llawen ag Ef “yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig”. Col. 2:3. Ond ar ôl ei bechod, ni allai mwy gael llawenydd mewn sancteiddrwydd, a cheisiodd ymguddio rhag presenoldeb Duw. Dyma gyflwr y galon ddi-ailenedig o hyd. Nid yw mewn cytgord â Duw, ac ni chaiff ddim llawenydd mewn cymundeb ag Ef. Ni allai y pechadur fod yn ddedwydd ym mhresenoldeb Duw; ciliai o gymdeithas bodau sanctaidd. Pe gellid caniatau iddo fynd i mewn i’r nefoedd, ni fyddai dim llawenydd iddo ef. Ni fyddai ysbryd y cariad anhunanol sydd yn teyrnasu yno - pob calon yn ateb i galon Anfeidrol Gariad - yn cyffwrdd ag unrhyw dant cyfatebol yn ei enaid. Byddai ei feddyliau. ei ddiddordeb, ei gymhellion, yn estronol i’r rhai hynny sydd yn cymhell y preswylwyr dibechod yno. Byddai y nef iddo ef yn lle o boenedigaeth; hiraethai am gael ei guddio oddi wrth yr Hwn sydd yn oleuni iddi, ac yn ganolbwynt ei lawenydd. Nid unrhyw fwriad tra-arglwyddiaethol ar ran Duw sydd yn cau allan y drygionus o’r nefoedd; caëir hwynt allan gan eu hanaddasrwydd eu hunain i’w chymdeithas. Byddai gogoniant Duw iddynt hwy yn dân ysol. Byddai iddynt groesawu dinistr, fel y gallent gael eu cuddio rhag gwyneb yr Hwn a fu farw i’w gwaredu. CG 13.2

Mae yn amhosibl i ni, ohonom ein hunain. ddianc o bydew pechod yn yr hwn yr ydym wedi suddo. Mae ein calonnau yn ddrygionus, ac ni allwn eu newid. “Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.” Job 14:4. “Syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.” Rhuf. 8:7. Mae i addysg, diwylliant, ymarfer yr ewyllys, ymdrech ddynol, oll eu cylch priodol, ond yma y maent yn ddirym. Gallant ddangos cywirdeb allanol ymddygiad, eithr ni allant newid y galon; ni allant buro ffynonellau bywyd. Rhaid fod gallu yn gweithio oddi mewn, bywyd newydd oddi uchod, cyn y gall dynion gael eu harwain oddi wrth bechod at sancteiddrwydd. Y gallu hwnnw yw Crist. Ei ras Ef yn unig a ddichon fywiocâu cyneddfau difywyd yr enaid, a’i dynnu at Dduw a sancteiddrwydd. CG 14.1

Y Gwaredwr a ddywedodd, “Oddieithr geni dyn drachefn (oddi uchod),” - oddieithr iddo dderbyn calon newydd, dymuniadau, amcanion, a chymhellion newydd, sy’n arwain i fywyd newydd - “Ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.” Ioan 3:3. Nid yw y syniad mai yr hyn sydd yn angenrheidiol yn unig ydyw datblygu y da sydd yn bod mewn dyn wrth natur ond twyll marwol. “Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.” 1 Cor. 2:14. “Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn.” Ioan 3:7. Am Grist yr ysgrifenwyd, “Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion.” loan 1:4. Yr eiddo Ef ydyw yr unig “enw dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae’n rhaid i ni fod yn gadwedig.” Actau 4:12. CG 14.2

Nid digon yw canfod trugarogrwydd Duw, cymwynasgarwch, tynerwch tadol ei gymeriad. Nid digon yw gweld doethineb a chyfiawnder ei gyfraith - gweld ei bod yn sylfaenedig ar egwyddor dragwyddol cariad. Gwelodd Paul yr Apostol hyn oll pan waeddodd, “Yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw.” “Y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.” Eithr ychwanegodd, yn chwerwder ing ei enaid a’i anobaith, “Eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod.” Rhuf. 7:16, 12, 14. Hiraethai am y purdeb, y cyfiawnder, ag yr oedd yn analluog ohono ei hun i’w gyrraedd, a gwaeddodd allan, “Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon?” Rhuf. 7:24. Dyma y cri sydd wedi esgyn o galonnau llwythog ym mhob gwlad ac ym mhob oes. Nid oes ond un ateb i bawb, “Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.” Ioan 1:29. CG 14.3

Ceisiodd Ysbryd Duw egluro y gwirionedd hwn mewn llawer ffordd, a’i wneud yn amlwg i eneidiau yn hiraethu am eu rhyddhau oddi wrth faich euogrwydd. Pan, ar ôl ei bechod yn twyllo Esau, y dihangodd Jacob o gartref ei dad, suddodd dan bwys teimlad o euogrwydd. Yn unig ac alltud fel yr ydoedd, wedi ei ysgaru oddi wrth yr oll a wnaeth fywyd yn annwyl, yr un meddwl uwchlaw pob un arall a bwysai ar ei enaid oedd yr ofn fod ei bechod wedi ei dorri ymaith oddi wrth Dduw, ei fod yn wrthodedig yn y Nefoedd. Mewn tristwch y gorweddai i lawr i orffwys ar y ddaear noeth. dim ond y bryniau unig o’i amgylch, ac uwch ei ben y nefoedd yn ddisglair gan sêr. Fel y cysgai, torrodd goleuni dieithr ar ei olwg; ac wele, oddi ar y gwastadedd lle gorweddai, ymddangosai grisiau tywyll enfawr yn arwain i fyny hyd at borth y nef, ac arnynt angylion Duw yn symud i fyny ac i lawr; tra o’r gogoniant fry, y clywid llais Duw mewn cenadwri o gysur a gobaith. Fel hyn y gwnaed yn hysbys i Jacob yr hyn a ddiwallai angen a hiraeth ei enaid - y Gwaredwr. Gyda llawenydd a diolch y gwelodd ffordd yn cael ei datguddio, ac y gallai efe, yn bechadur, gael ei adfer i gymundeb â Duw. Yr oedd ysgol gyfrin ei freuddwyd yn cynrychioli yr Iesu, unig gyfrwng cymundeb rhwng Duw a dyn. CG 15.1

At yr un darlun hwn y cyfeiria Crist yn ei ymddiddan â Nathanael, pan y dywedodd, “Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.” loan 1:51. Yn y gwrthgiliad, ymddieithriodd dyn oddi wrth Dduw; torrwyd y ddaear oddi wrth y nefoedd. Ni allai fod dim cymundeb dros y gagendor a orweddai rhyngddynt. Ond trwy Grist mae’r ddaear eto wedi ei dolenu wrth y nef. Gyda’i haeddiant ei hun pontiodd Crist y gagendor a wnaed gan bechod, fel y gall yr angylion gwasanaethgar ddal cymundeb â dyn. Mae Crist yn cysylltu y dyn syrthiedig, yn ei wendid a’i anallu, â Ffynhonell y nerth anfeidrol. CG 15.2

Eithr ofer yw breuddwydion dynion ynghylch cynnydd, ofer pob ymdrechion er dyrchafu dynoliaeth, os esgeulusant unig Ffynhonell gobaith a chymorth i’r hil syrthiedig. “Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith” (Iago 1:17), oddiwrth Dduw y maent. Nid oes gwir ragoriaeth cymeriad ar wahan iddo Ef. A’r unig ffordd at Dduw ydyw Crist. Efe a ddywed, “Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.” Ioan 14:6. CG 16.1

Mae calon Duw yn hiraethu ar ôl ei blant daearol gyda chariad cryfach nac angau. Wrth roddi i fyny ei Fab, Efe a dywalltodd allan i ni yr holl nefoedd mewn un rhodd. Mae bywyd a marwolaeth ac eiriolaeth y Gwaredwr. gweinidogaeth angylion, ymryson yr Ysbryd, y Tad yn gweithio uchod a thrwy bob peth, diddordeb diddarfod y bodau nefol - yr oll wedi ymrestru o blaid iachawdwriaeth dyn. CG 16.2

O, gadewch i ni fyfyrio ar yr aberth rhyfeddol a wnaed drosom ni! Gadewch i ni geisio gwerthfawrogi y llafur a’r egni a waria y Nefoedd er adfer y colledig, a’u dwyn yn ôl i dŷ eu Tad. Ni allesid byth greu cymhellion cryfach, na goruchwyliaeth mwy nerthol - y gwobrwyon tra-ragorol am wneud y da, y mwynhad o’r nefoedd, y gymdeithas â’r angylion, cymundeb â chariad Duw a’i Fab, dyrchafiad ac ehangiad ein holl alluoedd am oesoedd tragwyddol - onid yw’r rhai hyn yn ein symbylu a’n cymhell i roddi gwasanaeth serchus y galon i n Creawdwr a’n Hiachawdwr? CG 16.3

Ac ar y llaw arall, cawn farnedigaethau Duw a gyhoeddir yn erbyn pechod, yr ad-daliad anocheladwy, y diraddiad o’n cymeriad a’r dinistr terfynol, yn cael eu cyflwyno yng Ngair Duw i’n rhybuddio rhag gwasanaeth Satan. CG 16.4

Oni ystyriwn drugaredd Duw? Beth yn fwy allasai wneuthur? Bydded i ni osod ein hunain mewn iawn berthynas ag Ef yr hwn a’n carodd â chariad rhyfeddol. Gadewch i ni gymryd gafael yn y moddion ddarparwyd ar ein cyfer er mantais i ni ein hunain, fel y gallom gael ein trawsnewid i’w ddelw Ef, a chael ein hadfer i gymdeithas â’r angylion gwasanaethgar, i gydgordiad a chymundeb â’r Tad a’r Mab. CG 16.5