Camau at Grist

6/13

Article 6—Ffydd a derbyniad

GAN FOD DY gydwybod wedi ei deffro gan yr Ysbryd Glân, yr wyt wedi gweld rhywbeth o ddrygioni pechod, o’i allu, ei euogrwydd, a’i wae; ac yr wyt yn edrych arno gyda ffieidd-dod. Yr wyt yn teimlo fod pechod wedi dy ysgaru oddi wrth Dduw, dy fod mewn caethiwed i allu y drwg. Po fwyaf yr ymdrechi i ddianc, mwyaf oll yr wyt yn sylweddoli dy anallu i gynorthwyo dy hun. Mae dy amcanion yn amhur; mae dy galon yn aflan. Yr wyt yn gweld fod dy fywyd wedi bod yn llawn o hunanoldeb a phechod. Yr wyt yn hiraethu am gael maddeuant, am gael dy lanhau, cael dy wneud yn rhydd. Cytgord â Duw, cyffelybrwydd iddo Ef - beth elli wneud i’w gael? CG 37.1

Heddwch sydd eisiau arnat - maddeuant a heddwch a chariad y Nefoedd yn yr enaid. Ni all arian ei brynu, ni all dealltwriaeth ei sicrhau, ni all doethineb ei gyrraedd; ni elli byth obeithio ei sicrhau. trwy dy ymdrech dy hun. Ond y mae Duw yn ei gynnig i ti fel rhodd, “heb arian ac heb werth.” Esa. 55:1. Mae yn eiddo i ti, dim ond i ti estyn allan dy law a chymryd gafael ynddo. Dywed yr Arglwydd. “Pe byddai eich pechodau fel ysgariad, ânt cyn wynned a’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.” Esa. 1:18. “A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi.” Esec. 36:26. CG 37.2

Yr wyt wedi cyffesu dy bechodau. ac wedi eu bwrw ymaith yn dy galon. Yr wyt wedi penderfynu rhoddi dy hunan i Dduw. Yn awr dôs ato Ef, a gofyn am iddo olchi ymaith dy bechodau, a rhoddi i ti galon newydd. Yna cred ei fod yn gwneud hyn, am ei fod wedi addo. Dyma’r wers a ddysgodd yr Iesu pan oedd ar y ddaear. fod yn rhaid i ni gredu ein bod yn derbyn y rhodd y mae Duw yn ei addo i ni, ac y mae yn eiddo i ni. Yr oedd yr Iesu yn iachau y bobl o’u clefydau pan fyddai ganddynt ffydd yn ei allu; cynorthwyai hwynt yn y pethau y gallent eu gweld, a thrwy hynny eu hysbrydoli ag ymddiriedaeth ynddo Ef o berthynas i’r pethau na allent eu gweld - gan eu harwain i gredu yn ei allu i faddau pechodauGosododd hyn allan yn amlwg yn iachâd y claf o’r parlys: “Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys), Cyfod, cymer dy wely i fyny a dos i’th dy.” Matt. 9:6. Felly hefyd y dywed Ioan yr efengylwr, wrth siarad am wyrthiau Crist. “Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.” Ioan 20:31. CG 37.3

Oddi wrth hanes syml y Beibl am y modd yr oedd Crist yn iachau y claf, gallwn ddysgu rhvwbeth ynghylch sut i gredu ynddo am faddeuant pechodau. Gadewch i ni droi at stori’r claf o’r parlys ym Methesda. Yr oedd y dioddefydd druan yn ddiymadferth; nid oedd wedi defnyddio ei aelodau am 38 o flynyddoedd. Eto gorchymynai yr Iesu iddo, “Cyfod, cymer dy wely i fyny, a rhodia.” Ioan 5:1-9. Gallasai y dyn claf ddweud, “Arglwydd, os Tydi a’m gwnei yn iach, mi a ufuddhaf i’th air.” Ond na, efe a gredodd air Crist, credodd ei fod yn cael ei wneud yn iach, a gwnaeth yr ymdrech ar unwaith; ewyllysiodd gerdded, ac fe gerddodd. Gweithredodd ar air Crist, a rhoddodd Duw y gallu. Gwnaed ef yn iach. CG 38.1

Yr wyt tithau hefyd yn bechadur. Ni elli wneud iawn am dy bechodau yn y gorffenol, ni elli newid dy galon, a gwneud dy hun yn sanctaidd. Eithr mae Duw yn addo gwneud hyn oll i ti drwy Grist. Cred yr addewid honno. Cyffesa dy bechodau, a rho dy hun i Dduw. Ewyllysia ei wasanaethu Ef. A’r un mor sicr ag y bydd i ti wneud hyn bydd i Dduw gyflawni ei air i ti. Os wyt yn credu yr addewid - cred dy fod yn cael maddeuant ac yn cael dy lanhau - ac mae Duw yn rhoddi y ffaith; cei dy wneud yn iach. megis y rhoddodd Crist i’r claf o’r parlys y gallu i gerdded pan gredodd y dyn ei fod yn cael ei iachau. Y mae felly os wyt ti yn ei gredu. CG 38.2

Paid ag aros i deimlo dy fod wedi dy wneud yn iach, eithr dywed, “Yr wyf yn ei gredu; y mae felly, nid am fy mod i yn ei deimlo, ond am fod Duw wedi addo.” CG 38.3

Dywed yr Iesu, “Beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac efe fydd i chwi.” Marc 11:24. Mae yna amod i’r addewid yma - ein bod yn gweddio yn ôl ewyllys Duw. Ond ewyllys Duw yw ein glanhau oddi wrth bechod, ein gwneud yn blant iddo, a’n galluogi i fyw bywyd sanctaidd. Felly gallwn ofyn am y bendithion hyn, a chredu ein bod yn eu derbyn, a diolch i Dduw ein bod wedi eu derbyn. Ein braint ydyw mynd at yr Iesu a chael ein glanhau, a sefyll gerbron y ddeddf heb gywilydd nac anghysur. “Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist lesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ô1 yr Ysbryd.” Rhuf. 8:1. CG 38.4

O hyn allan nid wyt yn eiddo dy hunan; ti a brynwyd er gwerth. “Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd, . . . eithr â gwerthfawr waed Crist, megis Oen difeius a difrycheulyd.” 1 Pedr. 1:18, 19. Trwy y weithred syml hon o gredu yn Nuw, mae’r Ysbryd Glân wedi cenhedlu bywyd newydd yn dy galon. Yr wyt yn awr megis plentyn wedi ei eni i deulu Duw, ac y mae Efe yn dy garu fel y mae yn caru ei Fab. CG 39.1

Yn awr gan dy fod wedi rhoddi dy hunan i’r Iesu paid â thynnu yn ôl, paid â chymryd dy hun ymaith oddi wrtho Ef, eithr dywed ddydd ar ôl dydd, “Yr wyf yn eiddo Crist; yr wyf wedi rhoddi fy hun iddo Ef;” a gofyn iddo roddi i ti ei Ysbryd, a’th gadw drwy ei ras. Gan mai trwy roddi dy hunan i Dduw, a chredu ynddo, y daethost yn blentyn iddo, felly yr wyt i fyw ynddo Ef. Dywed yr apostol, “Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo.” Col. 2:6. CG 39.2

Ymddengys fod rhai yn teimlo eu bod ar brawf, rhaid profi i’r Arglwydd eu bod wedi diwygio cyn y gallant hawlio ei fendith. Ond gallant hawlio bendith Duw hyd yn oed yn awr. Rhaid iddynt gael ei ras Ef, Ysbryd Crist, i gynorthwyo eu gwendidau, neu ni allant wrthwynebu drwg. Mae’r Iesu yn caru ein cael ato Ef fel yr ydym, yn bechadurus, yn ddigynorthwy, ac yn ddibynol. Gallwn ddyfod gyda’n holl wendid, ein ffolineb, ein pechadurusrwydd, a syrthio wrth ei draed mewn edifeirwch. Ei ogoniant Ef ydyw ein hamgylchu ym mreichiau ei gariad, a rhwymo ein doluriau, ein glanhau oddi wrth bob anwiredd. CG 39.3

Dyma lle mae miloedd yn methu: nid ydynt yn credu fod yr Iesu yn maddau iddynt yn bersonol, yn unigol. Nid ydynt yn cymryd Duw ar ei air. Braint pawb sydd yn cydymffurfio â’r amodau ydyw gwybod drostynt eu hunain fod pardwn yn cael ei estyn yn rhad am bob pechod. Tafla ymaith yr amheuaeth nad yw addewidion Duw yn cael eu bwriadu i ti. Y maent i bob troseddwr edifeiriol. Mae nerth a gras wedi ei ddarparu drwy Grist i gael ei ddwyn gan angylion gwasanaethgar i bob enaid crediniol, Nid oes neb mor bechadurus fel na allant gael nerth, purdeb, a chyfiawnder yn yr Iesu, yr hwn a fu farw drostynt. Y mae yn disgwyl i’w diosg o’u gwisgoedd a staeniwyd ac a halogwyd â phechod, ac i roddi amdanynt ynau gwynion cyfiawnder; gorchymyna iddynt fyw, ac nid marw. CG 39.4

Nid yw Duw yn delio â ni fel mae dynion meidrol yn delio â’i gilydd. Mae ei feddyliau Ef yn feddyliau o drugaredd, cariad, a chydymdeimlad tyneraf. Efe a ddywed, “Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gẁr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.” “Dileais dy gamweddau fel cwmwl. a’th bechodau fel niwl.” Esa. 55:7; 44:22. CG 40.1

“Canys nid oes ewyllys gennvf i farwolaeth y marw, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch gan hynny, a byddwch byw.” Esec. 18:32. Mae Satan yn barod i ladrata ymaith addewidion sicr a bendithiol Duw. Mae yn dymuno cymryd ymaith bob pelydryn o obaith a phob llewyrch o oleuni o’r enaid; ond rhaid i ti beidio caniatau iddo wneud hyn. Na ddyro glust i’r temtiwr, eithr dywed, “Mae’r Iesu wedi marw fel y gallaf fi gael byw. Mae yn fy ngharu, ac nid yw yn ewyllysio fy mod yn golledig. Mae gennyf Dad Nefol tosturiol; ac er i mi ddifrïo ei gariad. er fod y bendithion a roddodd i mi wedi eu hafradloni. mi a godaf. ac a af at fy Nhad, a dvwedaf, ‘Pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog.’ ” Dywed y ddameg wrthyt pa fodd y derbynir y crwydryn: “Pan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd. ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd.” Luc 15:18-20. CG 40.2

Nid yw hyd yn oed y ddameg hon, er mor dyner ac effeithiol, yn gosod allan dosturi anfeidrol y Tad Nefol. Mynega yr Arglwydd trwy ei broffwyd, “A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd.”Jer. 31:3. Tra mae’r pechadur eto ymhell o dy y Tad, yn gwastraffu ei dda mewn gwlad estronol, mae calon y Tad yn hiraethu amdano; ac nid yw pob awydd i ddychwelyd at Dduw a ddeffroir yn yr enaid, yn ddim ond ymryson tvner ei Ysbryd Ef, yn denu â chariad, yn ymbilio, ac yn tynnu y crwydryn at galon cariad ei Dad. CG 40.3

Gydag addewidion goludog y Beibl o’th flaen, a elli di roddi lle i amheuaeth? A elli di gredu pan fydd y pechadur druan yn hiraethu am ddychwelvd yn ôl, yn sychedu am adael ei bechodau, fod yr Arglwydd mewn modd sarrug yn ei atal rhag dyfod at ei draed mewn edifeirwch? Ymaith â’r fath feddyliau! Ni all dim niweidio dy enaid dy hun yn fwy na choleddu y fath syniad am ein Tad Nefol. Y mae yn casâu pechod, ond y mae yn caru’r pechadur, ac Efe a roddodd ei hun, ym mherson Crist, fel y gallai pawb a fynn gael eu cadw. a chael tragwyddol wynfyd yn nheyrnas y gogoniant. Pa iaith gryfach a thynerach y gellid ei defnvddio na’r un a ddewisodd Efe i arddangos ei gariad tuag atom ni? Efe a ddywed, “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.” Esa. 49:15. CG 41.1

Tydi, sydd yn amau ac yn crynu, edrych i fyny; oblegid mae’r Iesu yn byw i eiriol drosom ni. Diolcha i Dduw am rodd ei annwyl Fab, a gweddïa fel na byddo iddo farw drosot ti yn ofer. Mae’r Ysbryd yn dy wahodd heddiw. Tyred â’th holl galon at Iesu. a gelli hawlio ei fendith. CG 41.2

Wrth ddarllen yr addewidion. cofia eu bod yn fynegiad o gariad a thosturi anhraethadwy. Mae calon fawr Anfeidrol Gariad yn cael ei thynnu at y pechadur gyda thosturi diderfyn. “Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef. sef maddeuant pechodau.” Eph. 1:7. Ie, cred yn unig fod Duw yn gynorthwywr i ti. Mae arno eisiau adfer ei ddelw foesol mewn dyn. Fel y bydd i ti nesau ato Ef gyda chyffesiad ac edifeirwch, Efe a nesa atat ti gyda thrugaredd a maddeuant. CG 41.3