Camau at Grist
Article 4—CyffesuYFFESU
“Y NEB A guddio ei bechodau, ni Iwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd.” Diar. 28:13. CG 28.1
Mae amodau derbyn trugaredd gan Dduw yn syml, yn gyfiawn, a rhesymol. Nid yw’r Arglwydd yn gofyn i ni wneud rhywbeth poenus er mwyn cael maddeuant o bechod. Ni raid i ni wneud pererindodau pellenig a blinderus, na chyflawni penyd poenus, i gymeradwyo ein heneidiau i Dduw y nefoedd neu i wneud iawn am ein trosedd; ond y neb a gyffeso ac a adawo ei bechod a gaiff drugaredd. CG 28.2
Dywed yr apostol, “Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, ... fel y’ch iachaer.” Iago 5:16. Cyffeswch eich pechodau i Dduw, Ef yn unig all eu maddau, a’ch diffygion i’ch gilydd. Os gwnaethoch ddrwg i’ch cyfaill neu gymydog, yr ydych i gydnabod eich bai, a’i ddyletswydd yntau ydyw maddau i chwi yn rhydd. Wedi hynny, dylech ceisio maddeuant gan Dduw, oblegid mae’r brawd a ddoluriwyd gennych yn eiddo Duw, ac wrth ei niweidio ef, ‘rydych wedi pechu yn erbyn ei Greawdwr a’i lachawdwr. Dygir yr achos gerbron yr unig wir Gyfryngwr, ein Harchoffeiriad mawr, a demtiwyd “ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod,” a’r hwn sydd yn medru “cyd-ddioddef gyda’n gwendid ni” (Heb. 4:15), ac yn abl i’n glanhau oddi wrth bob staen o anwiredd. CG 28.3
Nid yw’r rhai hynny nad ydynt wedi darostwng eu heneidiau gerbron Duw mewn cydnabyddiaeth o’u heuogrwydd, eto wedi cyflawni amod gyntaf cymeradwyaeth. Os nad ydym wedi profi’r edifeirwch hwnnw yr hwn nad edifarheir amdano, ac nad ydym gyda gwir ymostyngiad enaid ac ysbryd drylliedig wedi cyffesu ein pechodau, gan ffieiddio ein hanwiredd, nid ydym erioed yn ddifrifol wedi ceisio maddeuant pechodau; ac os na ddarfu i ni erioed geisio, nid ydym erioed wedi derbyn heddwch Duw. Yr unig reswm nad ydym yn derbyn maddeuant y pechodau a wnaed o’r blaen yw, nad ydym am ddarostwng ein calonnau a chydymffurfio ag amodau Gair y gwirionedd. Rhoir cyfarwyddyd clir yn y mater hwn. Dylai cyfaddef pechod, boed gyhoeddus neu ddirgel, gael ei deimlo yn y galon, a’i ddatgan yn rhydd. Nid yw i gael ei dynnu oddi wrth y pechadur. Nid yw i gael ei wneud mewn ffordd ysgafn a diofal, neu i gael ei orfodi oddi wrth y rhai hynny nad oes ganddynt deimlad gwirioneddol o gymeriad ffiaidd pechod. Mae’r gyffes sydd yn dywalltiad o’r enaid mewnol yn mynd at y Duw o anfeidrol dosturi. Dywed y Salmydd, “Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac Efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.” Salm 34:18. CG 28.4
Mae gwir gyffes bob amser o gymeriad penodol, ac yn cydnabod pechodau neilltuol. Gallant fod o’r fath natur fel ag i’w dwyn yn unig gerbron Duw; gallant fod yn feiau y dylid eu cyffesu wrth unigolion a niweidiwyd drwyddynt; neu gallant fod o gymeriad cyhoeddus, a dylent felly gael eu cyffesu yr un mor gyhoeddus. Eithr dylai pob cyffesiad fod yn benodol ac i’r pwynt, yn cydnabod y gwir bechodau yr ydych yn euog ohonynt. CG 29.1
Yn nyddiau Samuel, crwydrodd yr Israeliaid oddi wrth Dduw. Dioddef yr oeddynt ganlyniadau pechod; oblegid collasant eu ffydd yn Nuw, collasant eu gallu i weld ei allu a’i ddoethineb i reoli y genedl, collasant eu hymddiriedaeth yn ei gymhwyster i gynnal ac amddiffyn ei achos. Troesant oddi wrth Reolwr mawr y greadigaeth, gan ddymuno cael eu llywodraethu fel y cenhedloedd o’u hamgylch. Cyn cael heddwch, gwnaethant y gyffes benodol a ganlyn: “Canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth geisio i ni frenin.” 1 Sam. 12:19. Rhaid oedd cyffesu yr un pechod ag yr argyhoeddwyd hwy ohono. Bu eu haniolchgarwch yn gorthrymu eu heneidiau, a’u gwahanu oddi wrth Dduw. CG 29.2
Ni fydd cyffes yn gymeradwy gan Dduw heb wir edifeirwch a diwygiad. Rhaid fod cyfnewidiadau pendant yn y bywyd; rhaid bwrw ymaith bopeth sydd yn digio Duw. Hyn fydd ffrwyth gwir dristwch am bechod. Mae’r gwaith sydd gennym i’w gyflawni o’n hochr ni yn cael ei osod yn eglur ger ein bron: “Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i r amddifad, dadleuwch dros y weddw” (Esa. 1:16, 17), “Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw.” Esec. 33:15. Dywed Paul, wrth siarad am waith edifeirwch, “Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch. ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.” 2 Cor. 7:11. CG 29.3
Pan fod pechod wedi torri grym y ddirnadaeth foesol, nid yw’r drwg-weithredwr yn canfod diffygion ei gymeriad, nac yn sylweddoli y drwg ysgeler a wnaeth; ac oni ildia i ddylanwad argyhoeddiadol yr Ysbryd Gian, erys yn rhannol ddall i bechod. Nid yw ei gyffesiadau yn gywir a difrifol. At bob cydnabyddiaeth o’i euogrwydd, fe ychwanega amddiffyniad er esgusodi ei ymddygiad, gan ddweud pe na byddai am amgylchiadau penodol, na fuasai wedi cyflawni hyn neu arall, y ceryddir ef amdano. CG 30.1
Ar ôl i Adda ac Efa fwyta o’r ffrwyth gwaharddedig, fe u llanwyd gan deimlad o gywilydd a dychryn. Eu hunig feddwl ar y cyntaf oedd pa fodd y gallent esgusodi eu pechod, ac osgoi dedfryd fygythiol marwolaeth. Pan ymofynodd yr Arglwydd ynghylch eu pechod, atebodd Adda, gan daflu yr euogrwydd mewn rhan ar ei gydymaith ac mewn rhan ar Dduw, “Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais.” Rhoddodd y wraig y bai ar y sarff, gan ddywedyd. “Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wnaethum.” Gen. 3:12, 13. Paham y gwnaethost y sarff? Paham y goddefaist iddi ddyfod i Eden? Dyma y cwestiynau a awgrymid yn ei hesgus am ei phechod, ac felly yn taflu ar Dduw gyfrifoldeb eu cwymp. Dechreuodd ysbryd hunan-gyfiawnder yn nhad y celwyddau, ac mae wedi cael ei arddangos gan holl feibion a merched Adda. Nid yw cyffesiadau o’r math yma yn cael eu hysbrydoli gan yr Ysbryd Dwyfol, ac ni fyddant gymeradwy gan Dduw. Bydd i wir edifeirwch arwain dyn i ddwyn ei euogrwydd ei hunan, a’i gydnabod heb dwyll neu ragrith. Fel y publican druan, heb gymaint â chodi ei olygon tua’r nef, efe a weddïa, “O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi bechadur.” A’r rhai CG 30.2